Mae Celfyddydau SPAN yn gyffrous o gyhoeddi bod yr hynod boblogaidd Gorymdaith Llusernau Hwlffordd yn dychwelyd yn 2024.  

Gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU ac wedi ei gyrru gan gyllid y Gronfa Ffyniant Bro, bydd Gorymdaith y Llusernau ym mis Tachwedd yn dod â'r gymuned ynghyd i ddathlu Hwlffordd a Sir Benfro.  

Dros y misoedd nesaf bydd Celfyddydau SPAN yn galw ar bobl greadigol i gyflwyno eu syniadau ar gyfer yr Orymdaith a'r pypedau enfawr a fydd yn ganolbwynt i'r ŵyl. 

Yna bydd rhestr fer y syniadau hyn yn mynd i bleidlais gyhoeddus, lle mae'r gymuned yn cael dewis gŵyl eu breuddwydion. 

"Nod SPAN yw bod dan arweiniad artistiaid a chanolbwyntio ar y gymuned. Bydd y bleidlais gyhoeddus yn rhoi'r pŵer i'r gymuned lunio eu gorymdaith eu hunain".

Bethan Touhig Gamble, Cyfarwyddwr Celfyddydau SPAN.

Bydd gweithdai cyhoeddus am ddim i greu llusernau yn y cyfnod cyn yr orymdaith a llawer o gyfleoedd i bobl gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, dilynwch Gelfyddydau SPAN Arts ar gyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch ar restr bostio SPAN.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i helpu i wneud i'r orymdaith ddigwydd cysylltwch â volunteer@span-arts.org.uk