Cynhelir ein 16eg arddangosfa Diwedd yr Haf flynyddol yn Waunifor eleni o ddydd Sadwrn 19 tan ddydd Llun 28 Awst, gyda phedwar deg pedwar o artistiaid o bob rhan o orllewin Cymru.

Mae’r ystod o waith yn cynnwys peintio, gwneud printiau, cerameg, gwydr ymdoddedig, papier maché, celf tecstilau, ffotograffiaeth, cerflunwaith, ffeltio â llaw, gemwaith, llyfrau wedi’u gwneud â llaw, gwydr lliw, gosodwaith, a Wal Gymreig yn arbennig ar gyfer chwe artist sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Bydd o leiaf un gweithdy ymarferol bob dydd, gan gynnwys sesiwn adrodd straeon Cymraeg.

Bydd y cerddorion Cymreig adnabyddus Ceri Rhys Matthews a Julie Murphy yn perfformio datganiad acwstig o ganeuon a cherddoriaeth o orllewin Cymru yn y Rendezvous Café ar ddydd Sadwrn 26 Awst, gyda chefnogaeth Noson Allan. Mae ein gwefan yn cynnwys oriel o holl waith yr artistiaid a bydd ar-lein am flwyddyn i bobl weld a chysylltu ag artistiaid yn uniongyrchol os dymunant. Mae mynediad i'r arddangosfa am ddim.