Swydd rhan-amser (oriau hyblyg, cyfartaledd o 22.5 awr yr wythnos), cytundeb cyfnod parhaol 

I ddechrau cyn gynted â phosib 

Cyflog: £24,500 pro rata 

Dyddiad Cau: Dydd Llun 5 Mai 2025  

Cyfweliadau: Dydd Iau 15 Mai 2025 

Lleoliad: Rydym yn dîm cydweithredol sy’n gweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ac mae angen presenoldeb yn un o'r swyddfeydd o bryd i'w gilydd, ond gellir cyflawni cyfran fawr o'r rôl hon wrth weithio gartref. Os gallai mynychu’r swyddfa eich atal rhag gwneud cais am unrhyw reswm, anfonwch e-bost atom i drafod eich sefyllfa ymhellach. 

Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol sydd wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn cymryd camau cadarnhaol trwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sy’n adnabod yn ei llythyr cais eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddol. 

Rôl Cefnogaeth Greadigol 

Ydych chi am gael eich troed yn nrws y sector llenyddol? A ydych chi wedi profi rhwystrau’n cael mynediad i’r celfyddydau a diwylliant o’r blaen? Ydych chi'n angerddol am lenyddiaeth a'i photensial i drawsnewid bywydau? Yna efallai y bydd y swydd hon yn berffaith i chi! 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm deinamig a chreadigol. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o weinyddu a chyflawni prosiectau a rhaglen ehangach Llenyddiaeth Cymru, sy’n anelu at greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau. 

Mi fydd y rôl hon yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a rheolwyr prosiectau creadigol i ddysgu o’u harbenigedd wrth i ni weithio i sicrhau bod yr awduron a’r cymunedau rydym ni’n cefnogi ledled Cymru yn elwa o’n rhaglenni. Byddwch yn cefnogi prosesau ymgeisio a chyflwyno cynlluniau blaenllaw megis ein rhaglen datblygu awduron, Cynrychioli Cymru, a Sgwennu’n Well sy’n cefnogi datblygiad ymarferwyr llenyddol

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys dylunio holiaduron i gasglu adborth, a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i'n gweithgareddau. Byddwch hefyd yn cysylltu ag awduron a hwyluswyr, gweinyddu ceisiadau a dylunio astudiaethau achos i gyfleu effaith ein gwaith. 

I ddarganfod mwy am weithio i Llenyddiaeth Cymru cliciwch ar y dolenni isod: 

Am Llenyddiaeth Cymru 

Buddion Gweithwyr a Datblygiad Profesiynol 

Ein Polisi Recriwtio 

Ein Haddewid 
 

Dyddiad cau: 05/05/2025