11:00am – 12:30pm

6 Awst 2024

Y Lle Celf (Maes yr Eisteddfod, Parc Ynysangharad, Pontypridd)

Sgwrs Banel:

Bydd y drafodaeth hon yn edrych ar y gwahanol ffyrdd mae’r Oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru yn cefnogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chreu gwaith newydd. Gan edrych ar enghreifftiau diweddar o arddangosfeydd sydd wedi’u curadu ar y cyd, ffyrdd newydd o gael mynediad at y casgliad cenedlaethol, a chomisiynu gwaith newydd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf, bydd y panel yn edrych ar sut mae’r fenter yn gweithio ledled Cymru i ddod â phobl at ei gilydd i brofi, archwilio a mwynhau celf gyfoes.

https://www.eventbrite.com/e/casgliadau-comisiynau-a-churadu-tickets-964089847687 

  • Mandy Williams-Davies Cadeirydd y Bwrdd, Oriel gelf gyfoes genedlaethol i Gymru
  • Peter Finnemore, Artist ac Aelod o’r Bwrdd Project
  • Ffion Rhys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Rhwydwaith Orielau 
  • Gwyn Jones, Oriel Plas Glyn y Weddw, Rhwydwaith Orielau
  • Carys Tudor, Amgueddfa Cymru, Prif Bartner
  • Jen Abell, Comisiwn Geraint Ross Evans ar ran Eisteddfod Rhondda Cynon Taf