Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.
Rheolir Canolfan Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (CICH) Rhondda Cynon Taf gan Gyngor Rhondda Cynon Taf (RhCT) mewn partneriaeth â Startup Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol.
Mae CICH RhCT yn canolbwyntio ar adeiladu clwstwr celfyddydau a diwydiannau creadigol mwy yn RhCT trwy ddigwyddiadau rhwydweithio ac ymgysylltu a chymorth busnes a chymorth cychwyn busnes wedi'i dargedu. Nod y prosiect yw cynyddu cydweithrediad ac arloesedd rhwng unigolion creadigol a busnesau.
Mae gan CICH RhCT dreftadaeth greadigol gyfoethog ar draws meysydd amrywiol gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a chelfyddydau perfformio. Gan weithio gyda theatrau a lleoliadau sefydledig ym Mhontypridd, Aberdâr, Treorci a mwy, nod y prosiect yw trosoli egni creadigol y cymoedd, datblygu rhwydweithiau newydd ac adnewyddu cysylltiadau creadigol ar draws y fwrdeistref a chyda’r rhanbarth yn ehangach.
Mae CICH RhCT yn agored i unrhyw unigolion creadigol presennol neu gwmnïau creadigol ac i unrhyw un sy'n ystyried gweithio yn y sector creadigol. Mae’n rhad ac am ddim i ymuno ac mae cefnogaeth i fynychu a chymryd rhan yn y rhaglenni hyfforddi pwrpasol sy’n cael eu cynnig.
Ein nod yw datblygu cronfa ddata ar draws y Clwstwr ochr yn ochr â gweithgareddau marchnata i helpu i ddweud y stori o’r sector creadigol yn RhCT a dyfeisio cynllun ar gyfer datblygiad parhaus y sector yn y dyfodol.
Mae gan Gyngor RhCT eisoes gynlluniau adfywio canol tref (er enghraifft, ar gyfer Aberdâr a Porth). Rydym yn cydnabod bod y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn cynrychioli sector allweddol i gynorthwyo datblygiad economaidd y sir. Y gobaith yw y bydd treialu’r datblygiad clwstwr hwn ym Mhontypridd, Aberdâr a mannau allweddol eraill yn gatalydd i dwf parhaus a chreu swyddi o fewn sector creadigol RhCT.
Os hoffech chi gofrestru i ymuno â'n rhaglenni CICH RhCT, ymuno â'n digwyddiadau rhwydweithio Clwstwr neu fynegi diddordeb mewn ymuno â'n mentrau cymorth busnes creadigol pwrpasol am ddim, llenwch ein ffurflen gofrestru ar-lein a'n ffurflen cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant dienw - dolenni isod.
Digwyddiadau CICH: Rhondda Cynon Taf
O fis Medi i fis Rhagfyr, mae CICH yn cefnogi digwyddiadau rhad ac am ddim mewn lleoliadau allweddol o amgylch RhCT. Mae’r sesiynau hyn wedi’u hanelu at entrepreneuriaid creadigol, llawryddion creadigol a chwmnïau:
-
Rhwydweithio gyda chysylltiadau newydd yn yr ardal
-
Mewnwelediadau newydd gan weithwyr proffesiynol sefydledig
-
Cyfleoedd ariannu newydd
-
Ysgogi syniadau newydd
-
Cefnogaeth i fusnesau newydd gan Startup Stiwdio Sefydlu Prifysgol De Cymru ar ei champws yn Nhrefforest
-
Sefydlu cydweithrediadau a phrosiectau newydd
-
Ymgysylltu â chymunedau newydd
-
Ehangu eich sylfaen wybodaeth
Os hoffech gymryd rhan, llenwch y ffurflen hon a chwblhewch yr Arolwg Cydraddoldeb/Amrywiaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch stiwdio@southwales.ac.uk gyda’r pwnc “CICH RhCT.” Gallwn gadw mewn cysylltiad wrth i’r Clwstwr Creadigol ddatblygu.
Cymorth i fusnesau newydd creadigol a darpar fusnesau
Yn dilyn llwyddiant y Startup Stiwdio Sefydlu yn PDC Trefforest, hoffem wahodd busnesau creadigol newydd a darpar fusnesau creadigol i gyflwyno eu cynnig i Brosiect CICH. Anfonwch eich syniad i’r Stiwdio yma a chwblhewch yr Arolwg Cydraddoldeb/Amrywiaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch stiwdio@southwales.ac.uk gyda’r pwnc “CICH Casnewydd.”
Mae CICH yn cynnig wyth wythnos o sesiynau Hyfforddi Entrepreneuriaeth Greadigol yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd 2023. Mae’r rhain am ddim i’w fynychu a bydd cymorth ariannol (er enghraifft costau teithio) i’ch helpu i fynychu’r sesiynau hyfforddi. Bydd y sesiynau yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
-
Datblygwch eich syniad cychwynnol
-
Cyflwyno eich syniad i gyllidwyr
-
Diogelu eich syniadau a'ch Eiddo Deallusol
-
Ffynonellau buddsoddi gan gynnwys Banc Datblygu Cymru
-
Sicrhewch eich cyllid
-
Sefydlu cwmni
-
Ymgysylltu â'ch marchnad
-
Dod o hyd i lwybrau at dwf
-
Cysylltu â'r gymuned greadigol ar draws De Cymru