Mae Castell-nedd Port Talbot wedi bod yn ffwrnais greadigol Cymru am genedlaethau gan gynhyrchu awduron, artistiaid, beirdd, cerddorion a gwneuthurwyr ffilm a theatr adnabyddus. Mae'r ardal hefyd yn cael ei galw yn Galon Ddramatig Cymru: tirwedd trawiadol gyda chyferbyniadau dramatig, gyda chreadigrwydd yn llifo drwy'r trefi, y cymoedd a'r dyffrynnoedd.

Mae tîm twristiaeth yr ardal yn chwilio am awdur gyda chysylltiad â'r ardal i arddangos a dathlu creadigrwydd y rhanbarth.

Rydym yn cynhyrchu ffilm fer - rhwng 1 a 2 funud o hyd - fydd yn dangos nifer o senarios creadigol: er enghraifft, côr meibion yn camu ar y llwyfan, grŵp o ddawnswyr yn perfformio ym Mharc Margam, gitarydd ifanc yn ymarfer yn ei ystafell wely, dosbarth arlunio, perfformiwr stryd.  Mae'r rhain yn enghreifftiau yn unig, gan y byddwn yn cael ein harwain gan yr awdur/artist a ddewiswyd a'u gwybodaeth am bobl a lleoliadau'r ardal. Bydd yn debyg i'r fideo yma o ran arddull.  

Rydym yn chwilio am awdur i greu stori fydd yn plethu'r senarios yma at ei gilydd ac yn siarad am yr ysbrydoliaeth y mae pob un yn ei rhannu sy'n deillio o'r natur, y diwylliant, y gymuned a threftadaeth greadigol artistiaid mawr y rhanbarth.

Rydym yn gwahodd awdur i gyflwyno syniad ar sut y gallai stori creadigrwydd yr ardal gael ei hadrodd. Rydym yn croesawu beirdd ac artistiaid y gair llafar, awduron straeon byrion, awduron ffuglen, cofianwyr, cerddorion, dramodwyr, myfyrwyr ysgrifennu creadigol ¾ ac mae'r briff yn agored i gael ei ddehongli.

Rhagwelwn y bydd eich darn ysgrifenedig yn ffurfio sgript trosleisio'r fideo, ond byddem hefyd wrth ein bodd yn eich cynnwys yn perfformio, darllen, siarad, canu ac ati, yn unol â'r hyn sy'n addas i'ch syniad creadigol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n ofynnol a fydden ni ddim eisiau i neb deimlo nad ydyn nhw am wneud cais os byddai'n well ganddyn nhw aros y tu ôl i'r llenni.

I gael gwybod mwy am beth sy'n ein gwneud yn falch i gynrychioli Calon Ddramatig Cymru, ewch i'n gwefan: https://dramaticheart.wales/?lang=cy 

I gyflwyno eich syniad, e-bostiwch dramaticheartofwales@rethinkprm.com gan ddefnyddio'r pwnc 'Calon Ddramatig - cais awdur'. Byddwn yn derbyn ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Dylai'r e-bost gynnwys:

  • Amlinelliad cryno o'ch dewis o fformat a'ch syniad creadigol (h.y. cerdd, stori fer, drama radio fer, cân, ac ati). Rhwng 200 a 400 gair, a dim mwy.
  • Enghreifftiau o'ch gwaith. Gall hyn fod yn ddolenni at ffynonellau ar-lein neu'n straeon/cerddi/dramâu/sgriptiau wedi'u hatodi. Does dim rhaid iddyn nhw fod wedi eu cyhoeddi a dylen nhw ddangos eich arddull a'ch llais i ni. Nid yw bod wedi cael cyhoeddi gwaith yn flaenorol yn ofynnol ar gyfer y prosiect hwn.
  • Bywgraffiad byr. Cofiwch gynnwys eich cysylltiad â'r ardal, gan mai dim ond gan bobl greadigol sydd â phrofiad byw o'r ardal y gallwn ni dderbyn ceisiadau. dim mwy na 150 gair. 

Cymhwystra:

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg; bydd y fideo terfynol yn ddwyieithog.
  • Os ydych chi'n ddwyieithog, amlinellwch sut y byddech chi'n cyflwyno eich darn gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyfieithydd creadigol sydd â degawdau o brofiad yn cyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith. Byddai hi'n cydweithio gyda chi i gynhyrchu adrannau dwyieithog o'ch gwaith, felly does dim rhaid bod eich Cymraeg yn berffaith.

 

Dyddiad cau: 2 Ebrill. Bydd yr awdur yn cael ei ddewis erbyn 10 Ebrill a bydd gofyn cael y darn terfynol erbyn 10fed Mai.  

Manylion cyswllt: dramaticheartofwales@rethinkprm.com

Tâl:  £500.00

T&A: Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Ar ôl ei gwblhau, bydd hawlfraint y gwaith a gomisiynwyd drwy’r alwad hon yn sefyll gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ond bydd cytundeb yn cael ei osod gyda’r artist/awdur ac mae CNPT yn agored i drafod sut y gall yr artist/awdur barhau i ddefnyddio’r gwaith hwn yn y dyfodol.

 

Dyddiad cau: 02/04/2024