Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a’r Sblash Mawr am gefnogi darn theatr stryd newydd sbon awyr agored yn y Gymraeg ar gyfer Gŵyl Sblash Mawr 2025 yr haf hwn.

Mae gan y sefydliad £3000 ar gyfer artist neu gwmni i ddatblygu darn o theatr awyr agored sy'n addas i deuluoedd a all fod naill ai'n gyflwyniad statig neu grwydrol (neu ychydig bach o'r ddau). Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf a dydd Sul 20 Gorffennaf ac mae’n rhaid i'r artistiaid llwyddiannus A) Bod ar gael i berfformio hyd at 3 gwaith ar y ddau ddiwrnod a B) Creu a pherfformio'r gwaith o fewn y ffi a ddyrannwyd.

Dylai'r darn ddathlu'r Gymraeg, bod dim mwy nag 20 munud o hyd a bod yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol. Yn ogystal â'r ffi hollgynhwysol o £3000, gall Glan yr Afon gefnogi gyda gofod i ddatblygu'r darn.

Sut i Wneud Cais?
Mae'r cyfle yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu'n awyddus i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith, ac yn artist neu'n weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, gyda phrofiad neu uchelgais o weithio yn sector y celfyddydau awyr agored.

Anfonwch ddisgrifiad byr aton ni ohonoch chi'ch hun neu’ch cwmni, eich syniad creadigol a pham eich bod yn credu y byddai'r gwaith hwn yn llwyddiannus mewn amgylchedd gŵyl celfyddydau awyr agored.

Dyddiad cau Dydd Sul 30 Mawrth. Anfonwch eich cais drwy e-bost i artsdevelopment@newportlive.co.uk
 

Dyddiad cau: 30/03/2025