Meddai Phil George, Cadeirydd y Cyngor:

“Roeddem yn falch iawn o glywed bod Nick wedi cael OBE. Am 13 mlynedd, arweiniodd Nick y Cyngor gydag angerdd a deallusrwydd. Roedd ei agwedd at bartneriaethau gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn amhrisiadwy i’n gwaith. Roedd ei ddylanwad yn eang ac roedd ei bresenoldeb cyson mewn digwyddiadau celfyddydol yn destun syndod i bawb.

“Dangosodd arweiniad clir yn ystod y pandemig i helpu’r sector. Roedd yn gweithio oriau hir ac roedd ei ddrws ar agor o hyd. Ymatebodd yn wresog i her ddeublyg Mae Bywyd Pobl Dduon o Bwys ac Ni Chawn ein Dileu. Roedd yn awyddus i newid y maes a gwella hygyrchedd at y celfyddydau. Roedd am wasgaru ein grantiau ar hyd a lled Cymru. Ymrwymwn i barhau â’i waith a dorrai sawl cwys newydd. Dyma fydd ei waddol o’i gyfnod gyda’r Cyngor.

Mae’n haeddu cael ei anrhydeddu a hoffem ei longyfarch yn dwymgalon.”