Beth yw Breaking the Box?

Dyfarnwyd cyllid i ni gan gronfa Cysylltu a Ffynnu arloesol Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu rhwydwaith o leoliadau cynhwysol a hygyrch yng Nghymru sy’n cael eu cefnogi i groesawu artistiaid, criwiau cefn llwyfan, gweinyddwyr a chynulleidfaoedd amrywiol, ac sy'n hyderus yn gwneud hynny.

Bu Cwmni Theatr Taking Flight yn gweithio gyda Theatrau Sir Gâr, Pontio, Theatrau Rhondda Cynon Taf, hynt a phartneriaid llawrydd ar Breaking the Box – prosiect a oedd yn cynnig hyfforddiant a chymorth i weithlu theatr anabl a byddar sy’n dod i’r amlwg, ac yn annog lleoliadau yng Nghymru i fynd ati yn y dyfodol i ymgorffori rolau ar gyfer pobl greadigol sy'n fyddar neu'n anabl.

Nod y prosiect hwn oedd ailddychmygu’r gweithlu creadigol, gan nodi meincnod ar gyfer Cymru mewn perthynas â'n sefyllfa o ran hygyrchedd ac arferion cynhwysol.

Pam dod i Ddiwrnod Rhannu’r Diwydiant?

Roedden ni wir yn gobeithio y byddai Breaking the Box yn newid pethau. Dewch draw i’r Ffwrnes yn Llanelli i gael gwybod beth rydyn ni wedi’i ddysgu, beth fydd ein camau nesaf (rhybudd: mae mwy i ddod) a pha wersi y gallwch eu dysgu o’r prosiect a'u rhoi ar waith yn eich lleoliad, eich cwmni cynhyrchu, eich ymarfer llawrydd neu'ch sefydliad diwylliannol chi.

https://www.eventbrite.co.uk/e/industry-sharing-day-tickets-617736595787