Yn y sesiwn hon, byddwn yn cyflwyno Audience Answers, ein cyfres newydd o adnoddau a gwasanaethau data a gwybodaeth.
Mae’r gwasanaeth Audience Answers newydd yn safle sy’n cyfuno gwybodaeth o docynnau, arolygon, segmentu’r Audience Spectrum, mapio a data poblogaeth gydag adroddiadau i gadw eich cyllidwyr yn hapus a’ch helpu i ddatblygu cynulleidfaoedd mewn ffordd ddeinamig.
Dysgwch pam y bydd y pedair prif egwyddor dylunio rydyn ni wedi’u dilyn yn gwneud gwahaniaeth i chi:
- Troi Gwybodaeth yn Gamau Gweithredu - y tu hwnt i siartiau a metrigau
- Defnyddwyr yn Gyntaf - bodloni eich blaenoriaethau
- Hyblyg a Sensitif – mae amrywiaeth eang o sefydliadau, sy’n golygu y bydd un yn addas ar eich cyfer chi
- Rhwydweithio - ehangu ein gwasanaeth ar gyfer rhwydweithiau, consortia a grwpiau cydweithredol eraill
Byddwn yn dangos y llwyfan Audience Answers, gan siarad yn fanylach am y rhannau allweddol o’r gwasanaeth sy’n cael ei gynnig - mae’r sesiwn hon yn canolbwyntio ar Arolygon, Hyfforddi a Rhwydweithiau - a thrafod sut gallwch chi gyfuno gwahanol elfennau i’ch helpu chi i gyflawni eich nodau.
Dyddiad: Dydd Mercher 24 Mai 2023, 1:00pm - 2.00pm
Archebwch eich lle yma: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/902433
Pwy:
Mae’r sesiwn hon ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes marchnata, gwybodaeth am ddata a datblygu cynulleidfaoedd, mewn sefydliadau diwylliannol. Mae llefydd yn brin a byddant yn cael eu blaenoriaethu ar y sail honno.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Dealltwriaeth o gynnyrch a gwasanaethau newydd Audience Answers, yn y dangosfwrdd ac wyneb yn wyneb, a sut gallant ddarparu’r hyn sydd ei angen arnoch.
Ar gyfer y rheini sydd angen casglu ac adrodd ar ddata ar gyfer cyllidwyr, byddwn yn siarad am sut gallwch chi ddefnyddio Audience Answers, a sut mae manteisio i’r eithaf ar ein gwasanaethau a’n hadnoddau i’ch helpu i ddangos effaith a newid ar gyfer eich Bwrdd a rhanddeiliaid eraill.
Hwyluswyr:
Anne Torreggiani, Prif Swyddog Gweithredol
Rosanna Cant, Pennaeth Rhwydweithiau
Chris France, Pennaeth Gwasanaeth Atebion Cynulleidfaoedd
Zoe Papiernik-Bloor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid
Megan Tripp, Rheolwr Cymunedol
Fformat:
Mae’r sesiwn hon ar ffurf gweminar 60 munud, gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau.
Cost: Am ddim