Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni ddosbarthu £1.5 miliwn yn ychwanegol yn y Datganiad ysgrifenedig: Arian ychwanegol ar gyfer Cyrff Hyd Braich ym meysydd Diwylliant, Chwaraeon a Chadw. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i symud yn gyflym i ddosbarthu'r arian mor effeithiol â phosibl.

Nod yr arian yw cynyddu gwytnwch y sector a chael effaith hirdymor arni. Gallai hefyd ddiogelu swyddi celfyddydol.

Inni allu dosbarthu’r arian yn well, e-bostiwch ni: cymorthbusnes@celf.cymru gan roi amlinelliad o sefyllfa eich sefydliad a sut y gallai’r arian wella eich gwytnwch hirdymor. Nid oes angen llawer o fanylion ar hyn o bryd. Ond lle bynnag y gallwch, amcangyfrifwch faint sydd ei angen ar eich sefydliad. Mae’n siŵr y bydd y galw yn uwch o lawer na’r arian sydd ar gael. Yn anffodus, ni allwn ateb cwestiynau cyffredinol drwy'r blwch e-bost. 

Ar ôl inni ddarllen eich atebion, gallwn benderfynu ar y camau nesaf a chyhoeddi sut i  ymgeisio. Gobeithio agor y broses cyn diwedd mis Hydref ond e-bostiwch ni cyn diwedd Medi inni ddeall hyd a lled y gofyn. Rydym hefyd am fod yn hyblyg gan ymateb i’ch gwahanol sefyllfaoedd orau y gallwn.

Ein nod yw dosbarthu’r arian mor effeithiol â phosibl a chanolbwyntio ar y meysydd mwyaf priodol. Felly gwerthfawrogwn eich cymorth.