Mae Arddangosfa Hip Hop Cymru, sydd wedi cael ei chynnal yn Nôl yr Eryrod, Wrecsam, yn ymweld â’r Hen Lyfrgell, Treherbert o ddydd Iau yr 28ain i ddydd Sadwrn y 30fed o Fawrth, gyda gweithdai mewn bitbocsio, dawnsio breakin’, cynhyrchu cerddoriaeth, sgiliau DJ a Rap; a sesiwn peintio graffiti a chystadleuaeth bitbocsio ar y dydd Sadwrn.

 

Trefnwyd yr arddangosfa  gan Avant Cymru, ar y cyd ag aelodau eraill o’r gymuned Hip Hop yn cynnwys Larynx Entertainment ac Oner Signs. Dyma’r cyntaf o’i bath yng Nghymru i ddod ag artistiaid graffiti, dawnswyr breakin’, rapwyr, DJs, MCs a chefnogwyr at eu gilydd, i rannu storïau a chymryd rhan mewn rhaglen o ddigwyddiadau. Mae’n dathlu 50fed penblwydd byd-eang Hip Hop ac yn codi proffil cyfraniad Cymru. Fe’i hariennir gan y Loteri Treftadaeth.

 

Mae’r arddangosfa yn cynnwys ‘ystafell wely cefnogwr’; siop gyda llyfrau, crysau-t ac eitemau eraill; waliau celfwaith graffiti; arddangosfa o eitemau fel caniau chwistrellu graffiti, recordiau feinyl, posteri hyrwyddo, a chyfweliadau podlediad gyda’r rhai oedd yn rhan o’r sîn, yn y gorffennol a’r presennol. Mae’n adeiladu ar nod Avant i weithio gyda chymunedau i ‘gofio’r gorffennol, trafod y presennol, a chreu y dyfodol’ ac i hyrwyddo ethos Hip Hop o heddwch, cariad, undod a chael hwyl.

 

Bydd y digwyddiad yn Treherbert yn cynnwys gweithdai graffiti, dawnsio breakin’, cynhyrchu cerddoriaeth, sgiliau DJ a chystadleuaeth Bitbocsio mewn partneriaeth a digwyddiad bitbocsio rhyngwladol FlowCase Wales a drefnwyd gan Matthew Hann.

 

Dywedodd Jamie Berry  o Avant Cymru (aka B-Boy Flexton): “Mae’r arddangosfa a’r diwgyddiadau wedi cyflwyno Hip Hop i lu o bobl ifanc a’i teuluoedd, ac wedi atgoffa’r genhedlaeth hŷn o’r hyn roeddent yn fwynhau ei wneud. Mae rhai pobl wedi dychwelyd i gymryd rhan yn y sîn. Roeddem am sicrhau y byddai’r arddangosfa yn teithio i lefydd nad ydynt yn denu cymaint o ddigwyddiadau a chyfleoedd.”

 

Dywedoedd Rachel Pedley o Avant Cymru (aka B-Girl Welsh Poppy): “Roedd yr arddangosfa a’r rhaglen o ddigwyddiadau yn Wrecsam yn bwysig iawn gan fod gennym le penodol i ymgynnull fel cymuned – nid oes y fath le yn bodoli yn nunlle arall yn y DU. Mae wedi bod mor llwyddiannus fel y bod Dôl yr Eryrod wedi cytuno i ni aros yna, felly rydym yn eiddgar iawn i weld be ddatblygith yn y dyfodol, ac yn gobeithio y bydd yn dal i fod o fendith i’r holl gymuned Hip Hop yng Nghymru.”

I gael gwybod mwy: https://www.instagram.com/avant_cymru/    https://www.facebook.com/AvantCymru/   https://www.avant.cymru/hip-hop#HipHopCymru