Bob dwy flynedd mae Galwad Agored Haf MADE yn amlygu detholiad o artistiaid talentog sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng yn Ne Cymru, yna, bydd panel yn dethol enillydd y wobr o sioe unigol gyda chefnogaeth yn rhaglen arddangosfa oriel 2024 !

Cafodd Arddangosfa Agored yr Haf MADE ei sefydlu i ddod a sylw a ffocws i artistiaid proffesiynol yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd yn benodol, drwy greu enillydd sy’n cael eu dewis gan banel o artistiaid, curaduron a pherchnogion orielau celf. Mae’r wobr o sioe unigol yn oriel MADE i artist wedi ei ddewis/dewis gan artistiaid sydd eisioes wedi derbyn y wobr gan guraduron MADE, yn codi’r bar mewn sawl ffordd. Mae’n datgan bwriad penodol i ffocysu ar greu corff newydd o waith, o fewn fframwaith curadurol i’w datblygu drwy sgwrs , i’r perwyl o greu arddangosfa newydd o waith. Mae sylw ar hyrwyddo’r gwaith drwy’r wasg yn creu diddordeb ag ymgysylltiad â’r cyhoedd, ynghyd â elfen o ddenu buddsoddiad gan gyrff cyhoeddus a noddwyr celf. Mae’r wobr wedi llwyddo i
helpu gyrfaoedd egin-artistiaid megis Zena Blackwell a Lucia Jones Kate Shooter a Ellie Young. Am rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio ewch i'n gwefan.  

Dyddiad cau 24/06/2023