Cerys Hafana, Gwilym Bowen Rhys ac Azenor Kallag sy'n cyflwyno rhaglen uchafbwyntiau arbennig o un o ddathliadau mwyaf y byd o ddiwylliant Celtaidd. Cynhelir Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn flynyddol yn Llydaw, Ffrainc, ac mae’n cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod artistiaid a pherfformwyr Celtaidd ar draws cannoedd o ddigwyddiadau.

Mae'r rhaglen yn archwilio cysylltiadau Cymru a Llydaw trwy iaith a diwylliant, ac yn dathlu partner rhyngwladol yr ŵyl eleni sef Asturia. Ceir perfformiadau gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol: Cerys Hafana a Lea, Patrick Rimes ac Avanc, The Rowan Tree, Nolwenn Korbell, VRï, Alffa, Perfect Friction , Gwilym Bowen Rhys a NoGood Boyo.

Mae'r rhaglen ar gael i'w gwylio ledled y byd ar blatfform S4Clic isod.