Yr Hydref hwn, mae'r gwneuthurwyr theatr Frân Wen a Theatr y Sherman yn cydweithio unwaith eto i lwyfannu Dynolwaith; drama newydd sbon yn y Gymraeg sy'n dilyn stori bersonol ddofn un dyn.

Wedi'i ysgrifennu a'i pherfformio gan Leo Drayton, mae Dynolwaith yn stori draws masc feiddgar a gonest wedi’i hysbrydoli gan brofiadau personol y dramodydd; ymhlith cymuned sy'n ymdrechu i gael ei lleisiau wedi'u clywed, dyma hanes un dyn o'i daith unigryw. Caiff ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans,  gyda Kayley Roberts yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol.

Yn gweithio ochr yn ochr â nhw fydd y Dylunydd Cara Evans, y Dylunydd Goleuo KJ, y Cyfansoddwr Melfed Melys a'r Dylunydd Sain Sam Jones.

Dynolwaith fydd ail gyd-gynhyrchiad y cwmnïau yn dilyn eu drama boblogaidd Imrie (★★★★ The Stage) yn 2023, ac yn yr un modd mae'n cynnig llwyfan i leisiau anhysbys yn ein cymunedau.

Bydd yn agor yn Theatr y Sherman ar 26 Medi, ac yn dilyn wythnos yno bydd yn teithio i Aberystwyth, Caernarfon, Bangor a'r Bala.

Mae hi'n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi'i eni yn y corff anghywir ac yn dechrau chwilio am y bywyd y mae'n gwybod ei fod i fod i'w fyw.

Wrth iddo ddechrau ei drawsnewidiad, mae tensiynau'n cynyddu, mae perthnasoedd yn straenio ac mae'r gefnogaeth y mae'n dibynnu arni'n dechrau teimlo'n fwy bregus nag erioed. Pan fydd gwrthodiad terfynol yn gwthio Jac i'w bwynt torri, mae'n taflu ei hun i anghofrwydd, gan brofi terfynau ei gorff a'i feddwl.

A fydd y rhai y mae'n eu caru yn sefyll wrth ei ochr pan fydd hi bwysicaf?

Gyda chapsiynau yn Saesneg a Chymraeg ym mhob perfformiad, mae Dynolwaith yn stori bersonol ddofn a diffuant yn y Gymraeg am hunanddarganfyddiad, gwydnwch a thrawsnewidiad un dyn traws.

Ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, bydd Frân Wen a Theatr y Sherman yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned i ddathlu bywydau traws ehangach gyda chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu, gan gynnig llwyfan cynnes a chreadigol ar gyfer rhannu profiadau a straeon.

Dywedodd Leo Drayton: “Braint yw cael adrodd y stori yma yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn amser lle mae’r gymuned draws yn cael ein targed a'i gamcynrhychioli, mae’n bwysicach nawr nac erioed bod ein lleisiau ni yn cael eu clywed. A gallen i ddim dychmygu tîm gwell i helpu fi adrodd y stori yma. Mae Gethin a'r timoedd yn y Frân Wen a'r Sherman wedi helpu fi i lunio drama dwi’n hynod falch ohono, a throi’r syniadau yn fy mhen mewn i eiriau ar bapur a chymeriad ar lwyfan.”

Dywedodd Gethin Evans: "Mae gan y gymuned draws gyfoeth diderfyn o straeon i'w rhannu, pob un yn olrhain taith unigryw, drawsnewidiol un person. Mae stori dyner Leo ei hun yn eithriadol, a bydd yn cael ei chyfarch â'r empathi a'r creadigrwydd y mae Frân Wen yn ymdrechu i'w ddwyn i'n holl waith.

“Ar ôl gweithio'n agos gyda Leo dros y ddwy flynedd ddiwethaf, allwn ni ddim aros i rannu geiriau Leo ac agor lle i eraill rannu eu rhai nhw. Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Sherman eto, gan ddod â drama gyntaf wych Leo i gynulleidfaoedd yn y brifddinas cyn cyrraedd cymunedau ledled Cymru.”

Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Nod Theatr y Sherman yw dychmygu byd sydd wedi’i wneud yn fwy cyfartal, yn fwy tosturiol, yn fwy unedig gan bŵer theatr. Mae’r cynhyrchiad hwn yn enghraifft berffaith o sut rydym yn rhoi hynny ar waith; rhannu un stori benodol yn ddilys, ynghyd â chyfres o ddigwyddiadau cynnes a diogel i eraill rannu eu profiadau unigryw eu hunain. Mae hwn yn gydweithrediad arbennig iawn yn wir.”