Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi agor ei borth ar-lein ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’w Adolygiad Buddsoddi – y broses sy’n penderfynu pa sefydliadau celfyddydol fydd yn derbyn arian dros gyfnod.

Digwyddodd yr Adolygiad Buddsoddi diwethaf yn 2015 pan dderbyniodd 67 cwmni eu siâr o gronfa gwerth £28.5 miliwn.

O dan yr hen drefn, roedd yr arian yn cael ei rannu dros gyfnod o bum mlynedd, ond wedi cyfnod o ymgynghori, mabwysiadwyd model newydd sy’n ei gwneud hi’n haws ymgeisio. Y tro hwn, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr arian dros dair mlynedd gyda’r opsiwn o dair mlynedd ychwanegol yn ddibynnol ar gwrdd â’r meini prawf.

Wrth graidd yr adolygiad bydd chwe egwyddor y bydd disgwyl i pob cais ddangos eu hymrwymiad iddynt wrth ymgeisio:

• Creadigrwydd

• Ehangu Ymgysylltiad

• Y Gymraeg

• Cyfiawnder Newid Hinsawdd

• Meithrin Talent

• Trawsnewid

Mae’r canllawiau – a gyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2022 - yn cynnwys manylion am sut i ymgeisio, cwestiynau a ofynnir yn fynych, a’r holl ddyddiadau pwysig. Gellir cyflwyno cais i broses Adolygiad Buddsoddi 2023 rhwng 9 Ionawr 2023 a 31 Mawrth 2023. Mae’r dogfennau perthnasol oll ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru ac ar gael ar ffurf ‘Easy Read’ a Iaith Arwyddo Prydain.

Cliciwch ar y ddolen hon am fwy o wybodaeth: https://arts.wales/cy/adolygiad-buddsoddi

DIWEDD      9 Ionawr 2023