Kathryn Ashill
Ganed hi yng nghymoedd Abertawe ac mae bellach yn byw ac yn gweithio ar Ynys y Barri. Graddiodd gyda BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfunol) o Brifysgol Fetropolitan Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant erbyn hyn) yn 2007. Enillodd radd MFA o Ysgol Gelf Glaschu/Glasgow yn 2015. Mae ei harddangosfa unigol yn 2021, 'Fools Gold', yn osodiad ffilm i Oriel Glynn Vivian sy’n rhan o Wobr Syr Leslie Joseph. Mae ar ddangos nawr yn ArtLacuna yn Ne Llundain. Mae wedi arddangos gwaith yn genedlaethol a rhyngwladol. Nawr mae'n gweithio ar waith ar gyfer sioe unigol fawr yn g39, Caerdydd, ar gyfer Medi 2022.
Mae’n gwneud PhD am ei hymarfer ym Mhrifysgol Manceinion sy’n archwilio posibiliadau cydweithio rhwng rhywogaethau ar draws y celfyddydau perfformio, therapi anifeiliaid a biotherapïau.
Angela Davies
Ganed hi ym 1977 yn Wrecsam. Cafodd radd Feistr yn Ysgol Gelf Manceinion. Yn 2015, cydsefydlodd stiwdio drawsddisgyblaethol MADE yn Ninbych.
Mae’n gweithio ym meysydd cerflunio, fideo, ffotograffiaeth, sain, gosodiadau a pherfformio. Mae ei hymarfer yn trafod yr amgylchedd a’r holltiadau mewn gofal a all ymddangos gartref ac ar draws y byd.
Yn 2018 cafodd Wobr Cymru Greadigol. Ymhlith ei sioeau diweddar mae: Gŵyl Ffilm Northlands (Yr Alban, Siapan, Efrog Newydd); Watershed Bryste; S12 Galleri Bergen; Pontio Bangor; Labordy V2 i’r Cyfryngau Ansefydlog.
Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat. Cymerodd ran mewn preswyliadau gyda National Theatre Wales, HOME, Stiwdio’r Cyfryngau Treiddiol a Chadw. Gwnaeth gomisiynau i Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Stiwdios Cysylltiedig y BBC gyda Nesta.
Kirsti Davies
Mae’n artist cymunedol amlddisgyblaethol sydd am ddod â phobl at ei gilydd drwy greadigrwydd, chwarae a phlanhigion.
Mae ei gwaith â sawl haenen gyda ffocws ar gysylltu pobl â’r amgylchedd drwy annog chwilfrydedd a chyfranogi ymarferol. Gwnaeth brosiectau a gosodiadau celf ar raddfa fawr i wahanol sefydliadau. Yn eu plith mae Gerddi Kew, Prosiect Eden, Canolfan Southbank, Llywodraeth Cymru, Cyngor Stiwardio Coedwigoedd, ysgolion, cynghorau a chyrff anllywodraethol.
Mewn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, gwnaeth MSc mewn Bwyd Cynaliadwy a Chyfoeth Naturiol. Ystyriodd y posibiliadau o dyfu gwymon yng Nghymru. Yn y cyfnod cloi, gwnaeth becynnau hadau i blant (TyfuDyfi) a gweithiodd gyda'i chymuned leol i feithrin gwytnwch bwyd.
Ganed a maged hi ym Machynlleth a dychwelodd yno’n ddiweddar i fagu ei theulu ifanc.
Dylan Huw
Mae Dylan Huw yn sgwennwr sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae'n gweithio'n ddwyieithog gyda beirniadaeth, ffuglen a phrosiectau cydweithredol, yn aml i archwilio cyfieithu, bywyd hyfryd/cwîar, ecoleg a gwaith cydweithredol. Ef yw Sgwennwr Preswyl elusen Jerwood ac enillydd Ysgoloriaeth Geraint George 2020/1. Mae'n gweithio gyda Peak Cymru i ddatblygu Pegwn, rhaglen i artistiaid archwilio dyfodol ieithoedd yng Nghymru. Mae wedi sgwennu darnau'n ddiweddar i Flash Art International, O'r Pedwar Gwynt, MOSTYN, Dortmunder Kunstverein, Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo golofn yn Barn ar gelfyddydau cyfoes Cymraeg ar y we. Gydag Elin Meredydd ac Esyllt Angharad Lewis, mae'n rhedeg mwnwgl, sy'n comisiynu sgwennu arbrofol a phrosiectau artistig ym maes print. Cafodd ei fagu yn Llanfihangel Genau'r Glyn, Ceredigion, ac mae ganddo MA (gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen) o Goldsmiths, Prifysgol Llundain.
Durre Mughal
Mae’n awdur ac artist ac mae ei gwaith yn cynnwys ymchwil, traethawd, awtoffuglen, barddoniaeth a rhyddiaith. Mae wedi'i gyhoeddi mewn gwahanol gylchgronau ac antholegau. Yn eu plith mae: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Welsh (Plural) (Repeater Books), Homes for Heroes 100: Council Estate Memories (Gŵyl Syniadau Bryste), Artes Mundi, Gŵyl Ymylol Caeredin. Hi yw cyd-olygydd ‘Just So You Know’ (Parthian Books). Hi yw un o sylfaenwyr cydweithfa meic agored 'Where I'm Coming From'. Gwreiddyn ei hymarfer yw cymuned a chydweithio. Mae’n creu gwaith dan ddylanwad natur, mudo, iechyd meddwl, dosbarth, hil a chroestoriadedd. Mae’n gwneud ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd wrth ysgrifennu ei llyfr cyntaf.
Rhys Slade-Jones
Mae’n artist hyfryd/cwîar o’r De sy’n creu gwaith hwyliog a gwirion sy’n llawn teimladau. Mae’n creu gwaith sy’n gyfeillgar, heriol a gwleidyddol sy’n cynnwys cabare, perfformio a chrefft. Cafodd Wobr Common a grant o Gronfa Gwaith Byw Jerwood. Gweithiodd gyda National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru, y BBC a’r Pleasance. Mae ‘Scream It From The Hills’ yn archwiliad blwyddyn o gymuned, hanes ac economeg yn Neuadd yr Henaint, Treherbert. Mae’n cefnogi pobl leol i gwestiynu’r systemau byd-eang y maent yn rhan ohonynt a'u grymuso i greu gwaith sy’n ymateb i'r hinsawdd.
Fern Thomas
Mae’n creu cerfluniau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar hanesion newydd, defodau, gwybodaeth am leoedd, addysgeg amgen a chwestiynau am ddyfodol ein hinsawdd. Mae ei gwaith yn cynnwys gwrthrychau, testun, gair llafar, sain, perfformio a chyfranogi.
Wrth wraidd ei gwaith mae ffuglen ddychmygol a storïau amgen drwy freuddwydion sy’n gatalydd trawsnewid. Fel man cychwyn mae’n defnyddio lle, archifau a gwrthrychau hanesyddol. Mae’n hoffi offer dewinydda i ragweld y dyfodol yn ei gwaith.
Mae’n cael ei hatynnu at ddirgryniadau pethau.
Heledd Wyn
Mae’n ffotograffydd, gwneuthurwr ffilmiau, artist gweledol, cyfarwyddwr a chynhyrchydd straeon a chynnwys ar sawl platfform. Enillodd wobrau am ei gwaith gweledol, ei gosodiadau ffilm, ei ffotograffiaeth a'i phaentiau ac maent wedi’u harddangos yn eang. Ers iddi fod yn fach mae’n ffilmio pethau gan chwarae â golau a symudiad i fywiogi cymeriadau a straeon. Mae’n fedrus gyda manylion ac yn hoffi dehongli lluniau. Mae ganddi radd mewn Drama, NFTS a hyfforddiant y BBC (Ffilm a Theledu). Mae'n bywiogi storïau drwy ei lens. Mae'n archwilio ac arbrofi er mwyn gwella ei gwaith gan gymryd cynulleidfaoedd ar daith gyda hi.