Cyngor Celfyddydau Cymru fydd yn rheoli’r gronfa gyda dwy elfen:
- ceisiadau i’w asesu gan y Cyngor sydd wedi'i anelu at leoliadau celfyddydol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol eraill sy'n ymgysylltu â'r cyhoedd a chael tâl am hynny (fel sefydliadau celfyddydau cymunedol). Mae’r sefydliadau, yn enwedig lleoliadau celfyddydol, yn cael blaenoriaeth am eu bod yn dibynnu mor drwm ar incwm oddi wrth berfformiadau, gweithdai a dosbarthiadau â thocynnau. Cawsant eu taro'n galed gan lai o gynulleidfaoedd a chyfranogwyr a gorfod talu o hyd orbenion sylweddol.
Disgwyliwn i ymgeiswyr celfyddydol i’r gronfa fod wedi llwyddo mewn cais i ail rownd ein Cronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF2) a ddigwyddodd ym Mai 2021. Os na chawsoch arian drwy CRF2 gennym, ond mae eich sefyllfa ariannol wedi newid erbyn hyn, esboniwn yn ein canllawiau llawn beth sydd angen ichi ei wneud
- ceisiadau i’w asesu gan Lywodraeth Cymru a Chymru Greadigol sydd wedi'i anelu at amgueddfeydd annibynnol lleol, llyfrgelloedd annibynnol a chymunedol a sinemâu annibynnol. Ond y Cyngor fydd yr asiant i’w weinyddu.
Mae'r gronfa’n targedu sefydliadau sy'n dioddef problemau ariannol difrifol oherwydd y pandemig.
Bydd rhagor o wybodaeth am hyn yn Ionawr 2022.
Ein nod yw agor am geisiadau ar 12 Ionawr a chau ar 26 Ionawr (gall y dyddiadau newid).
£100,000 yw’r mwyafswm am geisiadau. Gallwch ymgeisio i dalu costau a gawsoch yn y cyfnod 1 Hydref 2021-31 Mawrth 2022.
Nod y gronfa yw cefnogi sefydliadau sydd mewn trafferthion difrifol ac mewn perygl o gau neu golli swyddi oni chânt gymorth pellach. Rhaid i'r perygl fod oherwydd effaith y pandemig.
Rhaid i bawb fod yn gofrestredig ar ein porth ariannu ar-lein cyn gallu cael ffurflen gais. Gall sefydliadau cymwys gofrestru yn y flwyddyn newydd.
Mae’r Cyngor eisoes wedi dosbarthu dros £30.5 miliwn ychwanegol ers dechrau’r pandemig. Bu’n gyfnod dwys i'n staff ac i'r sefydliadau a ariannwn. Diolchwn i Lywodraeth Cymru am roi’r arian newydd a dymunwn bob llawenydd i chi dros y gwyliau.