Mae’r digwyddiad arbennig hwn ym mis Hydref yn cydblethu gwaith pedwar artist o Gymru: Gwenno, Cian Ciarán, Mark James a Dean Lligwy.

Bydd Gwenno’n perfformio caneuon Cernyweg, Cymraeg a Saesneg o’r pedwar albwm a gyhoeddodd fel artist unigol, gan gynnwys ei halbwm diweddaraf, ‘Utopia’. Bydd Cian Ciarán yn dangos ei raglen ddogfen am sut yr aeth ati i greu ‘Rhys a Meinir’, yn ogystal â ffilm wedi’i hanimeiddio sy’n cyd-fynd â’r sgôr cerddorfaol. Am y tro cyntaf erioed, bydd Dean Lligwy yn perfformio seinluniau Brythonaidd hynod sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer y digwyddiad. A bydd Mark James yn dangos gwaith newydd a ddatblygodd ar gyfer y digwyddiad, ynghyd â gweithiau celf, sef ‘Anomalies’, ‘Mountain People’ a ‘Culture Clash’.
Digwyddiad i wahoddedigion yn unig yw hwn, i’w gynnal yn Wall&Wall Aoyama, Wall&Wall Aoyama, Tokyo.