Crynodeb 

Bydd Ymddiriedolaeth Ynys Enlli yn cynnig cyfleoedd i Artistiaid Preswyl weithio ar Enlli yn ystod gwanwyn a haf 2024. Rydym yn chwilio am artistiaid profiadol a rhai sy’n datblygu o unrhyw ddisgyblaeth artistig sydd â chysylltiad efo Gwynedd, gogledd Cymru. Rhaid i’r gwaith ymateb i’r iaith Gymraeg, diwylliant, ecoleg, amgylchedd a threftadaeth hanesyddol Gwynedd neu Ynys Enlli. Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael eu gwahodd i dreulio hyd at 4 wythnos ar yr ynys, mewn llety hunan-arlwyo a stiwdio.

DYDDIAD CAU 29 Chwefror 2024. Diolch.

Am gyfer cais, neu os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda efo: celfenlli@gmail.com 

 

Ynys Enlli 

Saif Ynys Enlli, ynys chwedlonol yr 20,000 o seintiau, 3km o ben draw Penrhyn Llŷn, ac mae’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt, hanes a threftadaeth a phrydferthwch naturiol. Mae’r ynys yn 2.5km o hyd ac 1km ar draws, ac mae Mynydd Enlli yn cyrraedd uchder o 167m. Yn 2023, dynodwyd Enlli yn Noddfa Awyr Dywyll, y cyntaf o’i bath yn Ewrop. 

Mae 12 eiddo ar gael i’w llogi am wyliau byr ar yr Ynys, ond mae yma hefyd gapel, hen ysgol, caffi a siop sy’n gwerthu wyau, cimychiaid a chrancod ac yn darparu prydau a diod. Gwelir olion yr hen Abaty o’r 13eg ganrif, yn ogystal â’r Wylfa Adar a fferm yr ynys, ac mae’n gartref i oddeutu 200 o forloi. Am fwy o wybodaeth ewch i www.enlli.org

 

Manylion y Preswyliad

Artistiaid newydd/sy’n datblygu – Rydym yn cynnig dau leoliad wedi eu hariannu’n llawn, yn cynnwys llety hunan-arlwyo, stiwdio a chostau teithio ar y cwch, ond disgwylir i artistiaid ariannu eu cynhaliaeth a’u deunyddiau.

Artistiaid profiadol – Darperir llety, stiwdio, costau teithio ar y cwch fel uchod, ond disgwylir i’r artistiaid ariannu eu cynhaliaeth a deunyddiau, hefyd gyfrannu £200 yr wythnos tuag at gost y preswyliad

 

Mynediad

Dim ond un cwch sydd yn gwasanaethu’r Ynys, ac mae angen ei archebu rhag blaen. Noder y gall y cwch gael ei ganslo ar y funud olaf mewn tywydd drwg. Awgrymir bod yr artistiaid yn aros ar yr ynys ar gyfer y preswyliad, felly bydd angen dod â bwyd, eiddo personol a deunyddiau ar gyfer cyfnod y preswyliad. Bydd Warden yr Ynys ar gael i gynghori a chynllunio.

Cyfnod – Gallwch wneud cais am gyfnodau rhwng 1-4 wythnos o hyd rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2024.

Amodau – Mae Enlli yn lle anial a phell o’r tir mawr ac mae amodau gwaith yn gallu bod yn heriol. Bydd angen dillad addas ar gyfer pob tywydd i wynebu’r elfennau.

Llety – Bydd yr artistiaid yn aros yn Llofft Nant, ystafell cegin-fyw gyda croglofft i fyny’r grisiau. Nid oes ystafell ymolchi yn yr eiddo.. Gweler YMA – Nodwch os gwelwch yn dda os oes gennych anghenion a all effeithio ar fynediad i’r eiddo ac mi wnawn ein gorau i addasu’r trefniadau.

Cysylltiad WiFi – Does dim cysylltiad WiFi ar gyfer ymwelwyr i’r ynys; fodd bynnag, mae modd cysylltu â signal 4G a 5G mewn rhai rhannau o’r ynys.

Preswyliadau ar y cyd – Rydym yn annog pobl i gydweithio ac anogir preswyliadau ar y cyd. Os ydych yn dymuno ymgeisio efo artist arall, nodwch hyn yn eich cais. Bydd y llety a ddarperir yn cynnwys dau wely sengl mewn un ystafell wely a rennir.

Am fwy o wybodaeth am aros ar Ynys Enlli ewch i’r linc isod: https://www.bardsey.org/essential-information 

 

Gofynion

Bydd angen i’r Artistiaid fod â chysylltiad a Gwynedd, un ai’n byw, gweithio, wedi eu geni, neu bod ganddynt deulu a threftadaeth, neu eu bod yn gweithio ar brosiect yn ymwneud â Gwynedd.

  • Bydd angen i’r Artistiaid drefnu yswiriant angenrheidiol ar gyfer y preswyliad.
  • Gweithdai – Bydd yn ofynnol i Artistiaid gynnal o leiaf un gweithdy yr wythnos yn ystod y preswyliad ar gyfer ymwelwyr a phreswylwyr, a bydd y Cydlynydd Prosiect ar gael i fentora ynglŷn â hyn. Mae gweithdai fel arfer yn cael cynulleidfa dda ac mae modd codi ffi am y gweithdai. Gall hyn ddarparu incwm teilwng i’r Artistiaid.
  • Byddwn yn derbyn ceisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng.
  • Gall Artistiaid fod yn newydd neu’n brofiadol.
  • Bydd yn ofynnol i Artistiaid ddeall y dynodiadau arbennig sy’n perthyn i’r ynys o safbwynt yr ecoleg, bywyd gwyllt a threftadaeth.

 

Arddangos gwaith

Yr Artistiaid fydd yn berchen ar y gwaith a bydd cyfle i arddangos unrhyw waith ar yr ynys yn ystod yr haf, hefyd i’w arddangos ar wefan Enlli a’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd cyfle i arddangos neu berfformio gwaith yn y stiwdio / siop / hen ysgol neu o fewn gerddi neu fuarthau’r ynys.

 

Y Cais

Os oes gennych gwestiynau cyn gwneud y cais, cysylltwch os gwelwch yn dda efo:

 celfenlli@gmail.com 

  • Dogfen gais wedi ei chwblhau. (Cais cyflawn)
  • CV diweddar – Gyda manylion perfformiadau, arddangosiadau, gweithdau neu breswyliadau. 
  • Dogfen efo hyd at 5 llun, linc fideo, recordiad neu ddogfen o’r gwaith.
  • Os dymunir, mae modd cyflwyno atebion ar ddull clywedol, recordiad neu fideo.