Caerdydd, 1 Tachwedd 2023 —Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansio’r prosiect 'Kumbukumbu', prosiect arloesol sy'n ymroddedig i arddangos a dathlu treftadaeth Affrica-Cymru, ac sydd yn canolbwyntio’n arbennig ar hanes Pobl Dduon yng Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol. Bydd y fenter drawsnewidiol hon yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol mewn digwyddiad cofiadwy gyda'r nos, a fydd yn cynnwys areithiau ysbrydoledig, mewnwelediadau i'r prosiect, bwyd blasus, a thaith breifat unigryw o arddangosfa gyfareddol.

 

Manylion y Digwyddiad:

Dyddiad: 1 Tachwedd 2023

Amser: 18:30

Lleoliad: Y Brif Neuadd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

 

Nod 'Kumbukumbu', sy'n golygu 'atgofion' yn Swahili, yw creu llwyfan cynhwysfawr a rhyngweithiol ar gyfer archwilio a dathlu hanes a chyfraniadau cyfoethog y gymuned Affricanaidd yng Nghymru. Bydd y prosiect hirdymor hwn yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o dapestri diwylliannol Cymru, ac yn meithrin ymdeimlad o undod, cynwysoldeb a threftadaeth gyffredin.

Trwy adeiladu gwefan ymdrochol a fydd yn integreiddio'r holl ganfyddiadau ac ymchwil dros y tair blynedd nesaf, bydd y prosiect yn dod yn adnodd addysgol a dysgu gwych i fyfyrwyr ac athrawon. Ynghyd â chymorth y gymuned, bydd 'Kumbukumbu' yn creu man lle gellir casglu, ymchwilio i'r hanes cyfoethog hwn, a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Uchafbwyntiau’r Noson:

  • Areithiau Allweddol: Bydd mynychwyr yn cael y fraint o glywed gan gymeriadau cymunedol pwysig, haneswyr, artistiaid a phobl bwysig lleol sydd wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o warchod a hyrwyddo treftadaeth Affrica-Cymru. Bydd eu hareithiau yn ysbrydoli ac yn addysgu, ac yn gosod y naws ar gyfer archwilio'r prosiect.
  • Cyhoeddi’r Prosiect: Prif ddigwyddiad y noson fydd cyhoeddi 'Kumbukumbu' yn swyddogol. Bydd mynychwyr ymhlith y cyntaf i ddysgu am nodau a gweithgareddau’r prosiect, a sut y gallant gymryd rhan weithredol.
  • Danteithion: Bydd gwesteion yn cael blas ar fwydlen wedi'i churadu o brydau Affricanaidd a Chymreig blasus, a fydd yn cynnig cyfuniad o flasau sy'n adlewyrchu'r cyfuniad diwylliannol unigryw y mae 'Kumbukumbu' yn ei ddathlu.
  • Taith Breifat: I gloi'r noson, bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio arddangosfa hudolus SSAP sydd yn archwilio dad-drefedigaethu, ailadrodd straeon ac sydd yn datgelu gwirioneddau.

I fynychu’r digwyddiad hwn, cofrestrwch trwy’r ddolen hon erbyn 28 Hydref: https://www.eventbrite.co.uk/e/kumbukumbu-project-launch-tickets-728312019857?aff=oddtdtcreator

Mae llefydd yn brin, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw eich lle yn gynnar. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 'Kumbukumbu', ewch i'n gwefan yn www.ssap.org.uk.

 

Am ymholiadau gan y wasg neu geisiadau am gyfweliad, cysylltwch â:

Robert Oros

Robert.oros@ssap.org.uk

 

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

@ssapwales ar Instagram

@SSAPwales ar Twitter

Sub-Sahara Advisory Panel ar Facebook a LinkedIn

 

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan y Gronfa Treftadaeth Gymunedol Genedlaethol.