Bleak Fabulous x Jukebox Collective
Mewn lansiad ar 24 Chwefror i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (1af Mawrth 2025), bydd Jukebox Collective a Bleak Fabulous yn cymryd drosodd Caerdydd mewn ymgyrch awyr agored a digidol sy’n ail-ddychmygu’r wisg draddodiadol Gymreig, fel y caiff ei darlunio trwy lens greadigol Academi Jukebox.
Mae’r prosiect cydweithredol hwn, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Creadigol Charlotte James a’r Ffotograffydd Clémentine Schneidermann, yn archwilio treftadaeth Cymru. Fe’i hysbrydolwyd gan yr het Gymreig eiconig, ac mae’n defnyddio’r eiconograffeg genedlaethol fel man cychwyn i fyfyrio ar wreiddiau diwylliannol Cymru a’i hunaniaeth heddiw. Cafodd y prosiect ei ffilmio yn ardal Tre-biwt a Bae Caerdydd, cartref un o gymunedau Du hynaf y DU, ac mae’n dathlu’r Gymru gyfoes sy’n cysylltu traddodiad â hunaniaethau diwylliannol amrywiol.
Rhoddwyd cychwyn ar y prosiect yn 2021, trwy gyfrwng cyfres o weithdai creadigol gyda myfyrwyr Academi Jukebox - rhaglen sy’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol Gymreig. Bu’r myfyrwyr, oedd rhwng 7 ac 16 oed, yn cymryd rhan mewn gweithdai ar ddylunio gwisgoedd, steilio, ffotograffiaeth, darlunio a chyfarwyddyd celf. Roedd y sesiynau hyn yn gyfrwng i archwilio balchder a hunaniaeth Gymreig a chafodd y myfyrwyr gyfle i ennill sgiliau creadigol newydd, creu byrddau awyrgylch, steilio, ac addasu er enghraifft, gan ddefnyddio eu treftadaeth fel canllaw mynegiant.
Bu’r myfyrwyr fu’n gweithio gyda’r dylunydd gwisgoedd Cymreig Ffian Jones yn cymryd rhan mewn gweithdy creu hetiau, gan foderneiddio’r eitem draddodiadol trwy ei thrwytho â’u dylanwadau creadigol a diwylliannol unigryw. Ymgorfforwyd ganddynt hefyd elfennau eraill o’r wisg genedlaethol Gymreig yn eu gwisgoedd, elfennau fel y clogyn o wlanen goch, y siôl bersli, a’r Bais a’r Betgwn.
Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, bydd crysau t argraffiad cyfyngedig, cardiau post, a’r zine golygyddol sy’n dathlu’r delweddau o’r prosiect ar gael i’w prynu ar-lein ac yn ein naid yn Amgueddfa Genedlaethol Sain Ffagan ar 1 Mawrth, gyda’r holl elw gwerthu yn cael ei ailfuddsoddi yn Academi Jukebox.
-------
Bleak Fabulous
Stiwdio greadigol sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth yw Bleak Fabulous ac mae’n cyfuno gwaith ieuenctid, gweithdai creadigol, a ffotograffiaeth ddogfennol. Fe’i harweinir gan y ffotograffydd Ffrengig Clementine Schneidermann a’r cyfarwyddwr creadigol o Gymru, Charlotte James. Maen nhw'n gweithio gydag artistiaid proffesiynol, cymunedau, a gweithwyr ieuenctid er mwyn cyflwyno gweithdai i bobl ifanc sy'n byw mewn ardaloedd sy’n derbyn rhy ychydig o arian. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar greu gwisgoedd, ffotograffiaeth, dylunio setiau ac ysgrifennu creadigol. Mae’r gweithdai’n caniatáu i’r bobl ifanc gydweithio a bod yn rhan o’r broses creu darluniau yn ogystal â’u cyflwyno i sgiliau creadigol newydd.
Jukebox Collective
Cydweithfa gymunedol sy’n cael ei harwain gan bobl ifanc yw Jukebox ac mae’n meithrin lleisiau creadigol yr yfory. Mae eu Hacademi yn arbenigo mewn datblygu artistiaid trwy weithdai amlddisgyblaethol, mentora a sesiynau sy’n cynnig cipolwg ar y diwydiant creadigol.
Mae ganddynt hanes o ddatblygu talent a chreu gwaith creadigol sydd ar flaen y gad yn niwylliant Cymru. Mae eu portffolio eang wedi eu gweld yn partneru â sbardunwyr newid byd-eang, o Jamaica i Orllewin Affrica, a hynny trwy groestoriad o ddiwylliant ieuenctid, dawns, cerddoriaeth a mwy.