Gan gynnwys gwaith Zara Mader, Gail Howard, Adele Vye, Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, a Phoebe Davies dyma Yma, wrth ymyl, heddiw yn rhoi eu gwaith gyda’i gilydd am y tro cyntaf wrth i gymrodoriaeth g39 ddod i ben.
Yng ngwaith pob un o’r artistiaid gwelir gwrthwynebiad, yr awydd i frwydro’n ôl. Weithiau maent yn trafod yr ymdeimlad corfforol o fod ar ymylon newid –twll dwfn, cwsg, realiti, craciau mewn palmentydd lle mae bywyd yn gwthio i’r golwg. Pethau o’r dyfodol sy’n llusgo’r gorffennol yn ei flaen.
Mae Zara Mader wedi bod yn edrych ar yr hyn a all amharu ar rywun yn croesi stereoteipiau a’r gwrthwynebiad iddo. Mae ei chyfres pync brown barhaus, sy’n canolbwyntio ar Poly Styrene, wedi creu proffil o’r sin tanddaearol, sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae wedi’i gyfuno â diwylliant Zine, taflenni hysbysebu a ffotograffiaeth stryd lle mae ymylon a chorneli bodolaeth drefol yn ffynnu.
Mae Adele Vye yn archwilio bydoedd ffisegol a mewnol. Mae ganddi ddiddordeb mewn consurio a ffenomenau, ond y mae hefyd yn cael ei thrwytho gan fywyd bob-dydd. Mae trosiadau, hud a lledrith, galar a thrawsnewid i gyd yn treiddio trwy ei gwaith. Oherwydd yn Here, at the edge, today mae hi’n rhoi cynnig ar ffurfiau newydd, arbrawf mewn cwsg a gweithiau ffilm.
Dau sy’n gweithio ar y cyd yw Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse. Mae eu gosodiadau yn cyfuno pren wedi’i gerflunio a gwaith metel gyda thestun, sain, ffilm a pherfformiad er mwyn dychmygu dyfodol ymreolaethol a chyfnewidiol; ac i ystyried y berthynas rhwng gwladychiaeth, llafur a ffuglen wyddonol. Mae ymchwil diweddar i bensaernïaeth fyfyrgar a gofod cymdeithasol wedi siapio gosodiad newydd, sef technoleg brototeip ar gyfer cysylltiadau a chydberthyn dros amser.
Mae gwaith Phoebe Davies yn aml wedi’i siapio gan waith maes hirdymor, ac mae’n cydweithio’n rheolaidd ag unigolion, cymunedau a lleoliadau ac mewn ymateb iddynt. Trwy gydweithio â grwpiau o berfformwyr a phobl eraill o genedlaethau gwahanol, mae’n creu gwaith trwy berfformio i’r camera, ysgrifennu rhydd a recordio y tu allan i’r stiwdio. Mae ei gwaith bob amser yn defnyddio’r lens, y corff a’r llais i archwilio gwahaniaethau main a thensiwn ar ffiniau profiadau greddfol dynol a gwleidyddiaeth bersonol.
Mae gwaith Gail Howard ar ffurf deialog brintiedig sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng y cyffredin a’r domestig a chwestiynau dirfodol dwys. Wedi’u hargraffu ar ffabrig ysgafn, maent yn hongian gan lenwi’r gofod cyfan ac yn treiglo i mewn ac allan o’r arddangosfa. Mae rhyw fath o gylchogrwydd yn perthyn i’r gwaith – galwad ac ymateb wrth iddo chwilio am sicrwydd, a newid aflonydd mewn pwnc – ar ymylon newid bob amser.
Yma, wrth ymyl, heddiw yw’r tensiwn rhwng y ffordd y mae pethau nawr, y ffordd y mae pethau wedi bod a’r ffyrdd y gallant newid.
-------
Cynhelir y sioe yn g39 ochr yn ochr â sioe wedi’i churadu gan Sefydliad Freelands o’r enw Betwixt, 17/02/24 – 23/02/24, sydd i’w chynnal yn ei oriel yn Chalk Farm ynghyd â sawl lleoliad arall, gan gynnwys Oriel Mimosa House a’r Crypt. Wedi’i churadu gan Wingshan Smith gyda chyhoeddiad i gyd-fynd â hi, y mae’n nodi diwedd y rhaglen.