Bob hydref, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yn gwahodd pobl ifanc dalentog i glyweliadau ar gyfer ein côr, cerddorfa, band pres, ensembles dawns a theatr cenedlaethol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau cerddoriaeth oedd 8 Hydref. Mae dros 330 o gerddorion wedi gwneud cais, o'r ystod ehangaf erioed o gefndiroedd a daearyddiaeth.

Gwnaeth 124 o gantorion ifanc gais i ymuno â'r côr cenedlaethol, sydd yn fwy nag erioed o'r blaen. Maen nhw'n cynnwys sawl un sydd â chefndiroedd nad ydynt yn gorawl, sydd wedi bod yn derbyn cefnogaeth drwy raglen arloesol "Sgiliau Côr" CCIC.

Cafodd cyfnodau clo Covid effaith sylweddol ar ddysgu a datblygu offerynnau cerdd. Ond eleni mae 214 o bobl ifanc wedi gwneud cais i ymuno â'r ensembles offerynnol - cynnydd o 18% ers y llynedd - sy'n dangos bod ceisiadau bron wedi dychwelyd i niferoedd cyn Covid.

Ers y pandemig, mae CCIC wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru i helpu i sicrhau y gall cerddorion ifanc ar draws y wlad anelu at le yn ensemble cenedlaethol Cymru, yn ddifater o ble maen nhw ddod o na'u hamgylchiadau ariannol.

"Ar ôl bod yn aelod o CGIC dwi fel person newydd...Mae cael eich amgylchynu gan gymaint o bobl ifanc eraill sy'n caru cerddoriaeth gymaint â chi yn ei wneud yn hollol anhygoel!" Aelod CGIC, 2023

Mae CGIC wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau ariannol a rhwystrau eraill i gymryd rhan yn yr ensembles cenedlaethol. Mae croeso i'r rhai na allant fforddio talu ffioedd clyweliadau wneud cais, ac eleni manteisiodd 35% o'r ymgeiswyr ar y cynnig hwn. Yn yr un modd, mae clyweliadau fideo ar gael i'r rhai a allai deimlo nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn bersonol, ac eleni mae 27% o ymgeiswyr wedi dewis y llwybr hwn.

"Mae Cymru yn ffodus iawn o gael cerddorion mor dalentog a fydd yn sicrhau y bydd cerddoriaeth glasurol yn y genedl yn parhau i ffynnu." Nation.Cymru ar gyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2023, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Mae proffil ac enw da ensembles ieuenctid Cymru wedi bod yn tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn ffurfio Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i ddod â phob un ohonynt i mewn i un sefydliad. Yn ystod yr haf, mynychodd dros 3,400 o aelodau cynulleidfa berfformiadau cerddoriaeth a theatrig eithriadol o ansawdd uchel ledled Cymru, ym Mangor, Tyddewi, Caerdydd a Llanbedr Pont Steffan.

Dywedodd Matt Jones, Uwch Gynhyrchydd CCIC: "Mae Cymru yn genedl o artistiaid! Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, rydym ni’n gweithio'n galed i nodi ac annog y cerddorion, actorion, dawnswyr mwyaf talentog a mwy; a’u cyflwyno nhw i ystod eang iawn o gynulleidfaoedd. Rydym ni i gyd yn gyffrous iawn i gwrdd ag ymgeiswyr eleni, a bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i brofi cyfleoedd datblygu a pherfformio arloesol, gan weithio gyda rhai o arweinwyr a chyfarwyddwyr proffesiynol mwyaf blaenllaw y DU." 

Dwedwyd, Mari Lloyd Pritchard, Cyd-lynydd, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru: “Mae’n ryddhad mawr gweld fod cynydd yn y nifer sydd eisiau ymuno a’n ensemblau Cenedlaethol. Gyda dyfodiad y Cynllun Addysg Cerdd i newydd i Gymru, rydym yn falch o fod yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o annog ac ysbrydoli plant a phobl ifanc i ganu neu chwarae offeryn.

“Mae cyd-chwarae mewn ensemble yn brofiad arbennig, nid yn unig ar gyfer datblygiad eich llwybrau cerddorol ond hefyd at iechyd a lles cerddorion ifanc yn gyffredinol ac rydym yn falch iawn fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn addysg gerdd yn golygu fod llawer mwy o gyfleoedd, i bob oedran ym mhob Sir yng Nghymru, i fantesio ar brofiadau safonol i gyd-ganu a chyd-chwarae.”

Bydd clyweliadau'n cael eu cynnal yn ystod mis Tachwedd, gyda'r côr, y gerddorfa a'r bandiau pres yn cael eu ffurfio erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd y rhai nad ydynt yn llwyddiannus yn cael cynnig cefnogaeth amgen. Bydd ceisiadau ar gyfer ensembles dawns a theatr yn agor yn fuan. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn www.ccic.org.uk.