Fe’ch gwahoddir i berfformiad gwaith ar y gweill o ddetholiadau o ‘Y Mochyn’, stori dylwyth teg dystopaidd sy’n defnyddio pypedwaith cysgodion, crynodeb fideo byw a dyluniadau sain cyfoes i archwilio beth sy’n digwydd i ddynoliaeth pan mae popeth o'n cwmpas yn cael ei werthu i wneud elw.

 

Ar ôl y perfformiad, gallwch gymryd rhan mewn gweithdy rhad ac am ddim lle byddwch yn cael gwneud eich pypedau cysgod eich hun a chreu straeon cysgodion byr wedi'u hysbrydoli gan 'Y Mochyn' y byddwn yn eu llunio a'u ffilmio. Bydd y ffilmiau hyn wedyn yn cael eu harchifo ar ein gwefan fel y gallwch eu rhannu gyda ffrindiau a theulu.

 

Amser: 2 - 5pm

 

Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Tachwedd 

 

Lleoliad: Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

 

I archebu neu i drafod unrhyw geisiadau mynediad e-bostiwch chantal@commonwealththeatre.co.uk