Mae'r cyffro'n byrlymu yng nghwrs preswyl Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) eleni, sydd ar ei anterth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae 17 o ddawnswyr ifanc talentog wedi cael eu dewis ac wedi ymgynnull o bob rhan o Gymru am gyfnod dwys a gwefreiddiol o hyfforddi a chreu.

Eleni, mae'n bleser gan DGIC gyhoeddi bod y cwrs preswyl yn cael ei arwain gan y coreograffydd rhyngwladol o fri ac Aelod Oes Anrhydeddus Equity Yukiko Masui, yn ffres o weithio fel Cyfarwyddwr Symud ar gynhyrchiad West End Cwmni Jamie Lloyd o Romeo and Juliet. Yn ogystal â gweithio gyda Yukiko Masui, bydd ein dawnswyr hefyd yn cael cyfle i gymryd dosbarthiadau dyddiol gyda grŵp amrywiol o artistiaid dawns, gan archwilio amrywiaeth eang o arddulliau o ddawns gyfoes i theatr gorfforol. Mae'r amlygiad hwn i wahanol dechnegau a safbwyntiau yn sicrhau profiad cyflawn, gan ganiatáu i bob dawnsiwr ehangu eu set sgiliau a'u mynegiant artistig.

Mae cwmni eleni yn gymysgedd bywiog o gyn-fyfyrwyr sy'n dychwelyd a wynebau ffres. Rydym ni’n falch o groesawu naw dawnsiwr sy'n dychwelyd, sy'n dod â phrofiad a dealltwriaeth o ethos a gwerthoedd DGIC gyda nhw. Ochr yn ochr â nhw, mae wyth o ddawnswyr newydd yn ymuno â'r cwmni am y tro cyntaf yn dilyn clyweliadau ledled y wlad fis Chwefror diwethaf. 

Fel rhan o'n partneriaeth gyffrous gyda'r Celtic Collective, mae carfan eleni yn cynnwys dawnsiwr sy’n cymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid yr Alban (NYDCS). Mae'r fenter hon wedi'i chynllunio i gysylltu aelodau DGIC a NYDCS trwy frwdfrydedd ac awydd cyffredin i wella eu datblygiad dawns a'u hymwybyddiaeth o'r sector, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.  Yn gyfnewid am hyn, bydd un o ddawnswyr DGIC yn cael cyfle i gael profiad amhrisiadwy drwy ymuno â National Youth Dance Company of Scotland  yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Dywedodd Maura, aelod DGIC a myfyriwr cyfnewid Celtic Collective: “A minnau erioed wedi bod i Gymru, mae wedi bod yn brofiad teithio i lawr i ran newydd o'r DU. Rwy'n berson eithaf swil, tawedog, mae'r cwrs preswyl wedi gwneud i mi ddod allan o fy nghragen oherwydd ei amserlen ddwys, ei rhaglen lles a'i rhaglen gymdeithasol. Mae'r cwrs preswyl wedi gwneud i mi deimlo mor dda amdanaf fi fy hun. Mae cwrdd ag aelodau eraill DGIC wedi dysgu cymaint i mi am hyfforddiant proffesiynol, sydd wedi bod mor ddefnyddiol ac rwyf bellach wedi gwneud cysylltiadau cefnogol gyda dawnswyr ifanc eraill i gyd diolch i'r cwrs preswyl hwn a gwaith Anna o NYDCS a Jamie o DGIC."

Yn gyfnewid, bydd Eira, dawnsiwr DGIC o Wynedd, Gogledd Cymru, yn cael cyfle i gael profiad amhrisiadwy drwy ymuno â Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Dywedodd Eira: "Rwy'n gyffrous iawn i ymuno â Chwmni Dawns Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban fel rhan o'r rhaglen gyfnewid Celtic Collective. Mae'r cyfle i weithio gyda dawnswyr a choreograffwyr mor dalentog yn wirioneddol anhygoel, ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r Alban ac ymgolli yn y profiad hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle anhygoel hwn."

Dywedodd Jamie Jenkins, cynhyrchydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru: "Mae'r cyfnewid hwn gyda National Youth Dance Company of Scotland yn gyfle gwych i'n dawnswyr brofi gwahanol amgylcheddau creadigol a dysgu gan eu cyfoedion ledled y DU. Mae'n ymwneud ag ehangu gorwelion, adeiladu cysylltiadau, a gwthio ffiniau'r hyn y gall ein dawnswyr ifanc ei gyflawni. Rydym ni mor falch o barhau â'r bartneriaeth hon eleni ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae'r bartneriaeth hon yn esblygu ac yn cyfoethogi dawnswyr ein cwmnïau."

Wrth i'r cwrs preswyl barhau, mae'r cyffro ar gyfer y perfformiadau terfynol yn cynyddu fel perfformwyr gwadd gyda'r cwmni arobryn Ballet Cymru, lle bydd y dawnswyr ifanc talentog hyn yn arddangos canlyniadau eu gwaith caled o dan arweiniad arbenigol Masui. Gyda'r cyfuniad o goreograffi gweledigaethol Masui, talentau amrywiol y dawnswyr, ac ysbryd arloesol DGIC, a fydd yn cyrraedd carreg filltir arwyddocaol 25 mlynedd yn 2025, bydd y cwrs preswyl eleni yn bennod arloesol yn hanes y cwmni.