12/07/2023

Ymunwch â ffrwd byw o'r digwyddiad sydd yn trafod sut mae'r diwydiant theatr yng Nghymru yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ar AM nawr!

Mae'r holl waith rydym yn ei wneud nawr yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd. Ni allwn newid hynny. Ond mi allwn newid sut rydym yn gwneud y gwaith hwnnw a beth yw'r gwaith hwnnw. Mae'r diwydiant yn ecosystem, sydd yn cysylltu mewn sawl pwynt gwahanol. Drwy ddod at ein gilydd a dysgu gan ein gilydd, mi all Cymru osod safon newydd o arfer gorau.

Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Theatr Glan yr Afon, Casnewydd; National Theatre Wales, ABTT Cymru a Creu Cymru.  

Gwyliwch ffrwd byw 'Welsh Theatre and the Climate Crisis' ar sianel The Riverfront nawr!