Rydym yn falch iawn o gyflwyno ail ran tymor We Ran Together gyda gweithiau newydd gan George H. Wale, Durre Shahwar, a Michal Iwanowski.
Gwahoddwyd pob artist i ymateb i Fishtank, ffilm gan Richard Billingham a wnaed yn 1998. Hon oedd ei ffilm gyntaf ac mae’n waith arloesol ar gyfer teledu a gellir ei gweld ochr yn ochr â’r arddangosfa. Yn ddidrugaredd trwy lens y camera, ond eto’n dosturiol, mae’n archwilio tirwedd dynameg y teulu ac yn symud rhwng anhwylder ac agosatrwydd i estroneiddio a ffraeo.
Mae pob un o’r artistiaid wedi tynnu ar wahanol elfennau o gynnwys y ffilm i ddilyn trywydd ymchwil newydd a datblygu gweithiau cerfluniol, ffotograffig a thestun newydd. Pryf ar y wal, pysgodyn mewn tanc. Eu teuluoedd eu hunain. Hyd yn oed wrth weithio’n ofalus mewn mannau a themâu tebyg, mae’n amlwg bod y dylanwadau a pherthynas benodol yn nodi’r gwahaniaeth yma.
Mae George yn dechrau edrych ar eu perthynas â gwaith, â llafur – mae’n meddwl am estroneiddio o fyd natur a doniau neu sgiliau naturiol y gellir eu hetifeddu gan rieni ac yr ydym yn eu haddasu i’n cynnal yn ariannol. Arweiniodd hyn at feddyliau am iaith esthetig cefnogaeth a gwaith ei dad fel gosodwr lloriau. Lloriau, dan draed, fel rhywbeth a wnaed, mor sylfaenol ar gyfer byw, fel dangosyddion dosbarth, adeileddau cynnal yn llythrennol. O fannau domestig y cartref i fannau cyhoeddus.
Daw Durre â chyfres o gynigion a myfyrdodau. Mae ei gwaith yn croesi’r ffiniau rhwng y ffeithiol, ysgrifau, ac awto-ffuglen. Mewn ymateb i ffilm Billingham, mae’n myfyrio ar ei phrofiadau ei hun, ei hymdeimlad o berthyn, a’i hunaniaeth trwy iaith a deunyddiau teuluol. Datblygir y gwaith hwn ochr yn ochr â’i hymchwil i awto-ffuglen a’i hunaniaeth Pacistanaidd-Cymreig a’i llyfr, Gathering: Women of Colour on Nature, a gyhoeddir yn ddiweddarach yn 2024.
Mae Michal Iwanowski yn parhau â phrosiect parhaus, Minus the Mother, gyda chyfres newydd o ddelweddau. Gwyliodd ef a’i fam ffilm Billingham gyda’i gilydd ar ymweliad trachefn â Gwlad Pwyl, ac mae’r sioe yn g39 yn cyd-fynd â’i arddangosfa unigol a agorwyd yn ddiweddar, Go Home Polish, yn Amgueddfa Cymru. Nid yw Minus the Mother yn brosiect hawdd – i’w dystio, nac i’w wneud – ond drwyddo mae Michal yn ein hannog i feddwl am golled a’r rhai sy’n agos atom. Trwy’r lens, yn y gofod rhwng gwledydd a chyfathrebu o bell, mae’r agosatrwydd rhyngddynt yn tyfu wrth i’r ddynameg rhwng rhiant a phlentyn newid.
We Ran Together fydd y prosiect cyntaf mewn gofod prosiect newydd, ychwanegol yn g39 sy’n annog cynhyrchu gwaith newydd ac arbrofi. Mae’n cydredeg â’r arddangosfa Here, at the edge, today yn y brif oriel gyda Zara Mader, Gail Howard, Adele Vye, Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, a Phoebe Davies.
----------
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Artangel yn natblygiad yr arddangosfa hon. Mae Fishtank yn rhan o The Artangel Collection, menter i ddod â gwaith ffilm a fideo rhagorol, a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd gan Artangel, i orielau ac amgueddfeydd ar draws y DU. Datblygwyd The Artangel Collection mewn partneriaeth â Tate, ac mae’n cael ei noddi’n hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Sefydliad Foyle ac mae’n defnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Cefnogir g39 yn ei waith gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chefnogwyd yr ymchwil hon gan grant Reimagine Art Fund. Mae’r tymor yn parhau gyda g39 yn edrych yn fwy manwl ar y mudiad economaidd-gymdeithasol a’r celfyddydau gweledol. Mae cefndir economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn fater enfawr ac anweledig i raddau helaeth, gyda llai o lwybrau gyrfa wedi’u diffinio a llai o ddiogelwch. Mae heriau’n dal i fod yn holl bresennol yn y celfyddydau gweledol.