Profiad sonig grymus a throchol o synau sy’n cyfleu pryder ac ansicrwydd, mae Warning Notes yn sioe awyr agored rhad ac am ddim yn teithio ledled Cymru a’r DU yr hydref hwn.

Wrth i’r dydd droi’n nos, byddwch yn ymgolli mewn byd sain hudolus a pherfformiad byw yn yr awyr agored sy’n newid drwy’r amser. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol trawiadol – gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Warning Notes yn creu seinwedd gyfoethog a phwerus sy’n rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol presennol sy’n atseinio ledled ein byd.

Sioe newydd gan yr artist rhyngwladol, Mark Anderson, sy’n byrfyfyrio ac yn ymateb i’r gynulleidfa a’r amgylchedd. Mae Warning Notes yn chwareus ac yn hypnotig, gan ein gwahodd i wrando ar y presennol, ac i ystyried straeon personol a byd-eang – a’n dyfodol gyda’n gilydd

“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd” Audience

“Mae cymaint o bethau a ddylai fod yn achosi braw: rhyfel, newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol, sefyllfaoedd personol ac yma mae’n cael llais, galwad clir, o sibrwd i ruo. Ar adegau, cymysgedd cyfnewidiol o egni a sain, ar adegau eraill mae’n dawelwch myfyriol y mae pob un ohonom yn chwilio amdano” Mark Anderson

“Mae Anderson wedi treulio ei yrfa broffesiynol yn creu alcemi clywedol sy’n defnyddio golau, gwres, dirgryniadau, trydan, cemegau osgiliadol a pharaffernalia sy’n disgleirio yn ein llygaid ac yn ysgwyd ein dychymyg” Richard Wilson

2023 Dyddiadau’r Daith

29/30 Medi - Oriel Davies, 5 - 9yp, Y Drenewydd, Cymru

13/14 Hydref - Citrus Arts Tŷ Unnos, 4.30 - 8.30yp, Pontypridd, Cymru

20/21 Hydref - Oriel Plas Glyn y Weddw, 4 - 8yp, Pwllheli, Cymru

27/28 Hydref - Gŵyl Ideas, 4 - 8yp, Rhydychen, Lloegr

3/4 Tachwedd - Canolfan Grefftau Rhuthun, 4 - 8yp, Rhuthun, Cymru

Cysylltwch â lleoliadau am wybodaeth ac i archebu.

I bawb - o blant i oedolion. Gweithdai a pherfformiadau hygyrch ar gael.

Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh. Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Comisiynir a chyflwynir ar y cyd ag OCM.

Ar gyfer ymholiadau’r wasg, cyfweliadau a delweddau, anfonwch e-bost at – rosiestrang@gmail.com neu codwch y ffôn a galwch Rosie ar 07966071073.

www.mark-anderson.uk/projects/warning-notes.

Diolch - Ffotograffiaeth – Giles Bennett. Ffilm - Culture Colony. Dylunio Graffeg - www.dnq.design