Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a’r Korea National Contemporary Dance Company yn gweithio fel tîm mewn cyfnewidiad a fydd yn arwain at CDCCymru yn cyflwyno ei berfformiadau cyntaf erioed yn Ne Korea yr Hydref hwn.
Prosiect cydweithredol yw Wales Connection rhwng Cymru a De Corea sy’n paru coreograffydd o Gymru â dawnswyr o Gorea, a choreograffydd o Gorea gyda dawnswyr o Gymru gan arwain at uchafbwynt o berfformiadau dwbl yn Seoul y mis Tachwedd hwn.
Mae’r coreograffydd a’r enwebydd Bafta Cymru diweddar, Anthony Matsena yn gweithio gydag wyth dawnsiwr o Korea National Contempary Dance Company (KNCDC) i greu gwaith newydd o’r enw ‘Canned Meat’, y bydd yn ei greu a’i gynhyrchu yn Ne Corea. Yn y cyfamser, bydd y coreograffydd penigamp o Gorea, Boram Kim, yn treulio tair wythnos yng Nghymru yn gweithio gyda dawnswyr o Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eu cartref yn y Tŷ Dawns yng Nghaerdydd lle bydd yn creu gwaith newydd o'r enw ‘Catachory’.
Mae gan Gorea a Chymru ymdeimlad cryf o’u cefndiroedd hanesyddol a diwylliannol, y byddant yn eu rhannu drwy gydol y broses gan arwain at uchafbwynt perfformiadau dan bennawd Wales Connection in Seoul Arts Center Jayu Theater rhwng 24-26 Tachwedd eleni. Bydd y digwyddiad yn arddangos dawns yng Nghymru a De Corea a’r potensial creadigol o gydweithio.
KNCDC X Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Y Byd Dawns sydd uwchlaw genre a ffurf, ac yn arwain at berthynas y tu hwnt i’r ffiniau
Wales Connection, cynhyrchiad bil dwbl newydd gan Kim Boram ac Anthony Matsena
Mae gwaith Anthony Matsena yn hynod o gorfforol a theatrig, yn aml yn defnyddio sgiliau adrodd straeon pwerus i fynd i’r afael â sgyrsiau anodd a pherthnasol. Ar gyfer y cydweithrediad hwn bydd Anthony yn cyflwyno ‘Canned Meat’ gyda dawnswyr o KNCDC. Yng ngeiriau Matsena:
Mae “Canned Meat” yn archwilio syniadau byd ar fin dymchwel. Mae unigolion yn uno drwy ddyhead cyffredin i ddianc rhag gafael cyfalafiaeth, prynwriaeth a gorweithio.”
Bydd Boram Kim, cyfarwyddwr artistig Ambiguous Dance a choregoraffydd hynod o greadigol, yn gweithio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn ei arddull unigryw, gan weithio gydag ieithoedd dawns a gosod haenau goleuni a sain. Enw ei waith fydd Catachory – gair y dyfeisiodd Boram i gyd-fynd â'r ystyr ‘y goleuni anweledig sydd wrth wraidd pob bywyd.’
Gofynnodd Boram Kim “Sut allwn ni ddehongli'r goleuni?” “Pam ydym ni’n byw ac yn symud?” Mae’r perfformiad hwn yn ymgais i ddod o hyd i’r goleuni y tu mewn i mi a phawb arall drwy ddeall ac archwilio’r corff a theimlo “catachory”, sydd yn rhan o bob un ohonom, wedi bod erioed ac a fydd am byth, gan wneud i ni ddisgleirio.”
Dywedodd prif weithredwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Paul Kaynes: “Mae cysylltu gydag artistiaid a phobl ledled y byd yn greiddiol i’n rôl fel cwmni cenedlaethol Cymru. Mae gweithio gyda Boram Kim a'r KNCDC yn dangos pa mor gysylltiedig ydym ni, a Chymru, yn fyd-eang. Edrychwn ymlaen at rannu gwaith gwefreiddiol Boram Kim gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol.’
“Mae'r cyfnewidiad hwn rhwng Corea a Chymru mor gyffrous gan ei fod yn dwyn dau ddiwylliant ynghyd, yn llawn cyfoeth o hanes o'r celfyddydau ac adrodd straeon.” Eglura Anthony: “Y freuddwyd yw creu gwaith sy’n amlygu ysbryd y ddwy wlad ond sydd hefyd yn cyflwyno rhywbeth na allai gael ei greu heb i’r ddwy ran o’r byd ddod ynghyd.”
Cefnogir Wales Connection gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru