Dechreuodd ymarferion yr wythnos ddiwethaf gan dîm UNDER MILK WOOD newydd Volcano.

Mae’r cast o bump yn cynnwys cyfoeth o dalent a phrofiad ym myd theatr, teledu, ffilm a radio. 

Creodd CHRISTOPHER ELSON yn ddiweddar berfformiad gwreiddiol am y Cosmists Rwsiaidd - This Museum is a Spaceship. Mae e wedi gweithio’n rheolaidd gyda Volcano, August012 a Theatrau Sir Gâr ac wedi ymddangos ar y teledu gan gynnwys Da Vinci’s Demons, Material Girl a Torchwood.

Hyfforddodd AISLING GROVES-MCKEOWN yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gwaith yn cynnwys The Crucible yn y Lyric Theatre Belfast a Storm 2 gyda National Theatre Wales. Mae hi’n gweithio gyda Curious Doings a safle-benodol Three’s Theatre Company, yn ogystal â’r comedi byrfyfyr gan fenywod yn unig Notflix. 

Actor teledu a ffilm Cymreig yw RICHARD LYNCH sy’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan cymeriad Garry Monk yn y sioe Gymraeg hirsefydlog Pobol y Cwm ar S4C. Mae wedi gweithio'n helaeth ar draws y theatr, ffilm a theledu. Mae ei gredydau theatr yn cynnwys RSC, Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Royal Court, Almeida, Young Vic, Manchester Royal Exchange, a llawer mwy.

Mae JONATHAN NEFYDD wedi gweithio’n helaeth ym myd theatr a theledu ers dros 35 mlynedd ac ar hyn o bryd mae’n gyfarwydd i wylwyr Pobol y Cwm am chwarae rhan Colin. Ymhlith ei rolau diweddar mae Peter O’Toole yn y ffilm Grav, “The Prophet” yn The Way ar gyfer BBC, a The Actor yn The Woman in Black ar gyfer Theatr na nÓg. Hyfforddodd Jonathan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae OLIVIA SWEENEY yn actor a pherfformiwr corfforol aml-fedrus, yn wreiddiol o Swydd Efrog. Mae ei chredydau theatr yn cynnwys Faustus yn Faustus: That Damned Woman, Macbeth at the National gan Rufus Norris a chynyrchiadau gyda Arcola, Royal Exchange Theatre, Theatre by the Lake a Hull Truck Theatre. Hyfforddodd Olivia yn Northern School of Contemporary Dance.

Mae'r sioe yn agor ar 28 Tachwedd ac yn rhedeg tan 21 Rhagfyr. Rhagddangosiadau 22 a 23 Tachwedd.