Yn y flwyddyn y mae Under Milk Wood yn cael ei rhyddhau i'r parth cyhoeddus, mae Volcano yn troi'n ôl at y ddrama y cawsom ein gwahardd rhag ei pherfformio gan ystâd Dylan Thomas yr holl flynyddoedd yna yn ôl.
Mae Under Milk Wood yn agor nos Iau yma yng nghartref Volcano ar Stryd Fawr Abertawe, ac yn para tan 21 Rhagfyr.
Mae fersiwn 2024 Volcano - a ddisgrifiwyd gan Nation.Cymru fel "punk-rock Dylan on acid for the 21st century" - yn dechrau drwy ddwyn i gof y darlleniad enwog gafwyd yn Efrog Newydd yn 1953, cyn amgylchynu'r gynulleidfa gyda thrigolion tref ffuglennol Dylan Thomas yn swyn telynegol eu hiwtopia anarchaidd gyda'r hwyr. Bydd yn brofiad agos atoch, lliwgar a synhwyraidd gyda cherddoriaeth yn amrywio o Tom Jones i Stravinsky.
Mae gan y pum actor gyfoeth o dalent a phrofiad ym myd y theatr, teledu, ffilm a radio, o Gymru a thu hwnt.
Yn cynnwys Christopher Elson, Aisling Groves-McKeown, Richard Lynch, Jonathan Nefydd ac Olivia Sweeney.
Cyfarwyddwyd gan Paul Davies
Cyfarwyddwr Symudiadau Catherine Bennett
Wedi'i chynllunio gan Bourdon Brindille