Contrasts - Llŷr Williams yn chwarae Brian Hughes

I’w ryddhau gan Recordiau Tŷ Cerdd (TCR044)

21 Mehefin 2024

ar gael i'w ffrydio a lawrlwytho ar bob prif lwyfan

 

Ar achlysur rhyddhau EP o gerddoriaeth piano gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Brian Hughes, mae Tŷ Cerdd a Pyst yn cyhoeddi perthynas newydd.

Mae catalog Recordiau Tŷ Cerdd wedi ffynnu ers sefydlu’r label 10 mlynedd yn ôl, a bellach mae ganddo dros 30 o deitlau – o recordiadau o gyfansoddwyr enwog sy’n rhan o dreftadaeth gyfoethog cerddoriaeth Gymreig i gerddoriaeth gyfoes-clasurol, jazz a gwerin newydd sbon. O fis Mehefin 2024, bydd y catalog cyfan yn cael ei ddosbarthu’n ddigidol gan Pyst, gan gadarnhau ymrwymiad y label i seilwaith cerddorol Cymru a’r genedl.

Mae’r EP diweddaraf hwn, Contrasts, yn gylch o saith darn byr sy’n archwilio ystod o dechnegau piano – o wead y cordiau gyda defnydd estynedig o’r pedal, i linellau cantabile araf a haenau staccato llawn gwrthbwyntiau.

Dywedodd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Rydym mor falch o ddathlu cerddoriaeth Cymru drwy Recordiau Tŷ Cerdd, ac mae partneru â Pyst i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ymhell ac agos yn ddatblygiad mor gadarnhaol i’r label. Ni allem ofyn am recordiad mwy arbennig i ddechrau’r berthynas hon – mae mân-ddarnau cain Brian Hughes yn rhoi cipolwg hyfryd ac uniongyrchol ar ei waith sain rhyfeddol, yn enwedig yn y perfformiadau crisial glir hyn gan y pianydd arobryn Llŷr Williams.”