Mae Tŵlcit Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru yn adnodd rhad ac am ddim a grëwyd gan mewnbwn amhrisiadwy aeloda prosiect PiPA yng Nghymru.
Cydweithrediad yw Adeiladu Sylfeini yng Nghymru rhwng Creu Cymru a PiPA, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Dros gyfnod o bum sesiwn, daeth y prosiect hwn â charfan o sefydliadau celfyddydau perfformio o Gymru at ei gilydd yn ogystal â gweithwyr llawrydd i drafod yr heriau y mae rhieni a gofalwyr y sector yn eu hwynebu, rhannu arferion cefnogol cyfredol, a nodi adnoddau i wneud gweithleoedd yn fwy cynhwysol a hygyrch i’r rhai sydd ag ymrwymiadau gofalu. Datblygwyd y tŵlcit hwn fel rhan o’r prosiect i alluogi sefydliadau ac unigolion i ddatblygu dysgu ac ymgorffori rhai o'r arferion cefnogol a drafodwyd.
P'un a ydych chi'n llawrydd, yn leoliad neu'n sefydliad, mae'r pecyn cymorth hwn ar eich cyfer chi.
>> Cofrestrwch i'w lawrlwytho am ddim <<