Ar y 3ydd o Dachwedd bydd Neuadd Dora Stoutzker yn cynnal cyngerdd unigryw i ddathlu cyfoeth ac amrywiaeth cyfansoddwyr anabl o bob rhan o Brydain, cyfansoddwyr sydd wrthi’n gwneud enwau cenedlaethol a rhyngwladol iddynt eu hunain.
Mae’r bianyddes ragorol Siwan Rhys wedi’i disgrifio yn “ddehonglydd delfrydol, yn fythol-ffres yn ei chyflwyniad” (International Piano Magazine), ac mae hi ers tro wedi hyrwyddo cyfansoddwyr cyfoes ac wedi dangos ei hyblygrwydd a’i hymroddiad i arallgyfeirio a hybu cyfansoddwyr o gefndiroedd amrywiol nad ydynt wedi’u gwerthfawrogi’n llawn.
Mae’r chwe chyfansoddwr sy’n cael eu chwarae ganddi wedi dod i gerddoriaeth drwy lwybrau gwahanol a dangosir yr amrywiaeth o estheteg a syniadau sydd wedi eu swyno a’u hysbrydoli. Mae’r gyfansoddwraig o Gymru, Sarah Lianne Lewis, yn ysgrifennu cerddoriaeth feiddgar a llawn dychymyg sy’n pylu’r ffiniau rhwng sain acwstig ac electronig, gan archwilio smorgasbord o themâu, lliwiau, a gweadau sy’n gwneud ei cherddoriaeth yn hudolus ac yn ein synnu’n gyson. Mae gwaith newydd Sarah Lianne Lewis, sef ‘letting the light in’ yn llawn lliwiau hudolus ac yn ei ddull melodaidd yn hynod gyfarwydd ac yn hyfryd o ddieithr ar yr un pryd.
Sonia Allori yw un o leisiau mwyaf unigryw’r Alban, ac mae’n tynnu ar amrywiaeth eang o ddylanwadau gan lwyddo i ddod ag eiliadau o ddidwylledd dwys neu ffraethineb a hiwmor. Mae cerddoriaeth Sonia yn aml yn ymgorffori elfennau acwstig ac electronig, gan gynnwys offerynnau digidol fel iPads neu’r Offeryn Chwyth Electronig (EWI). Mae ‘Random eddies (in the space time continuum)’ yn dychmygu cyfres o deithiau sy’n digwydd yn y meddwl tra’n ddiogel yn eich ystafell fyw eich hun. Daw’r teithiau yn fyw trwy ryngweithio rhwng piano, offeryn chwyth electronig, seinwedd ac ambell sampl sain o wefan asiantaeth ofod NASA!
Mae’r gyfansoddwraig a’r berfformwraig Jo-Anne Cox wedi gwneud enw iddi’i hun drwy ei harchwiliad unigryw o’i hofferyn (y soddgrwth), a thrwy gydweithio unigryw mae’n cynhyrchu perfformiadau hudolus a difyr sy’n swyno cynulleidfaoedd. Mae ei meddwl chwilfrydig i’w weld yn glir yn ei hagwedd at gyfansoddi a pherfformio, ac yn ei hysbryd holistig bositif wrth greu cerddoriaeth. Wedi’i ysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae ‘Galwad y Mynydd’ yn waith archwiliadol hyfryd sy’n llawn pŵer a harddwch naturiol cignoeth.
Mae leon clowes yn artist creadigol hynod ddiddorol a meddylgar, sy’n tynnu ar ei brofiadau ei hun ac yn ymgysylltu’n ddyneiddiol ag eraill mewn modd sy’n gwneud ei lais cerddorol yn hoffus a chadarnhaol i’r clustiau. Mae ‘Anni, Gini, Joni’ yn gyfeiriad twymgalon at dri ffigwr a luniodd ddatblygiad cerddorol leon, a’i dwf personol fel unigolyn. Bydd y gwrandawyr yn siŵr o ymdeimlo’n ddwfn â dyneiddiaeth hyfryd y gweithiau.
Artist amlddisgyblaethol yw Elinor Rowlands sy’n defnyddio amrywiaeth o ddeunydd a chreadigaethau i gael gwaith sy’n gyfareddol a phwerus, beth bynnag fo’r cyfrwng. Mae archwilio profiad byw a defnydd unigryw o wead a lliw yn gwneud Elinor yn llais artistig hynod ddiddorol. Yn ‘Secrets in the Centrefold’ mae Elinor yn synfyfyrio ac yn archwilio digwyddiad go iawn a ddigwyddodd yn Norwy lle diflannodd pentref cyfan o ganlyniad i ddaeargryn. Mae’r gwaith yn archwilio’r teimladau o golled a phrosesu emosiynol yn sgil digwyddiad mor enfawr ac eto un sy’n ddigon anhysbys yn ein hanes.
Mae gan Sorcha Pringle agwedd gyfareddol a chwareus at ei cherddoriaeth sy’n adlewyrchu ei bywyd mewn modd llawn dychymyg sy’n procio’r meddwl. Mae syniadau Sorcha yn graff ac yn dangos cyfansoddwr sydd â chyfoeth o addewid creadigol. Mae ffraethineb a dychymyg Sorcha yn cael eu harddangos yn llawn yn ‘Diminished Credibility’ drwy ddisgwrs hynod ddiddorol rhwng llais testun-i-leferydd a’r piano.
Mae’r datganiad yn bosibl oherwydd cefnogaeth cronfa Ar Draws Ffiniau gan Sefydliad PRS, sydd wedi dwyn ynghyd y sefydliadau canlynol i weithio gyda’r cyfansoddwyr anabl rhagorol hyn: Drake Music Scotland, Tŷ Cerdd/Canolfan Gerdd Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Recordiadau’r NMC. Bydd y perfformiad cyntaf yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dilyn tridiau o recordio yn stiwdio Tŷ Cerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a daw’r prosiect i ben pan fydd NMC Recordings yn rhyddhau albwm gan gyfansoddwyr anabl yn 2024.
NODIADAU I OLYGYDDION
Mae Drake Music Scotland yn grymuso artistiaid a cherddorion anabl i newid cerddoriaeth am byth. Create yw eu rhaglen flaenllaw dan arweiniad artistiaid ac mae’n cefnogi cyfansoddwyr a pherfformwyr anabl a niwroamrywiol i greu gwaith artistig o ansawdd uchel a’i berfformio mewn lleoliadau prif ffrwd. Mae’n cydweithio â nhw i wella datblygiad gyrfa a chyfleoedd cyflogaeth, gan chwalu rhwystrau sy’n atal cymryd rhan yn llawn yn y sector cerddoriaeth prif ffrwd yn yr Alban, y DU a thu hwnt.
Mae ein rhaglen addysg cerddoriaeth Learn yn adeiladu ar ein hanes rhagorol o arwain yn ein sector mewn ymdrech genedlaethol i wneud yr Alban yn ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth a chynhwysiant mewn addysg cerddoriaeth. Rydym yn cefnogi pontio cerddorion ifanc anabl i gryfhau llwybrau cerddorol y tu hwnt i’r ysgol, gan fod â ffocws ar y rheiny sy’n dymuno cael hyfforddiant a phrofiad pellach i fyd oedolion. Cyswllt: Pete Sparkes, Cyfarwyddwr Artistig petesparkes@drakemusicscotland.org
https://drakemusicscotland.org
Cenhadaeth Tŷ Cerdd yw hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru. Trwy ei weithgareddau a thrwy weithio ag amrywiaeth o bartneriaid, mae Tŷ Cerdd yn gweithio i wneud y canlynol:
- dod â cherddoriaeth Gymreig i gynulleidfaoedd ledled y wlad ac o gwmpas y byd
- gwarchod treftadaeth cerddoriaeth Gymreig y gorffennol ac ysgogi datblygu cyfansoddi newydd, ar draws genres cerddorol
- galluogi cymunedau a chynulleidfaoedd cynyddol amrywiol i greu a mwynhau cerddoriaeth yng Nghymru.
Conservatoire cenedlaethol ein gwlad yw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae’n un o wyth Coleg Brenhinol cerdd a drama y Deyrnas Unedig. Mae ganddo enw rhagorol am baratoi artistiaid ifanc dawnus ar gyfer gwaith proffesiynol mewn Actio, Cerddoriaeth, Theatr Gerddorol, Opera, Dylunio Theatr a Rheoli Llwyfan. Mae bron i 800 o fyfyrwyr, o’r DU ac yn rhyngwladol, yn hyfforddi yn y Coleg yng Nghaerdydd bob blwyddyn a llawer ohonynt yn mynd ymlaen i weithio ar y lefel uchaf mewn cerddoriaeth, theatr, ffilm a theledu ledled y byd.
Mae’r Coleg wedi’i enwi gan y Guardian University Guide i fod y rhaglen hyfforddi Drama orau yn y Deyrnas Unedig bedair gwaith ers 2013. Mae hefyd yn enillydd rheolaidd yng Ngwobrau Bwrsariaeth Carleton Hobbs y BBC, gan ychwanegu at ei gofnod trawiadol gyda’r enillwyr Cecilia Appiah a Luke Nunn eleni. https://www.rwcmd.ac.uk/
Mae NMC Recordings yn label record arobryn sydd â statws elusennol. Credwn fod cerddoriaeth newydd yn ffurf gelfyddydol ddeinamig a deniadol a’i nod yw ysbrydoli a herio cynulleidfaoedd trwy ryddhau a hyrwyddo recordiadau gan gyfansoddwyr Prydeinig a Gwyddelig, partneriaethau artistig arloesol, a chyflwyno prosiectau addysgiadol i bobl ifanc.