Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025, 4.15yh
Am ddim

___

Ymunwch â Tina Pasotra mewn dangosiad o’i ffilm fer ddiweddaraf, Jamni (2025), yn ogystal â dau ddarn blaenorol o’i gwaith dros y degawd diwethaf.

Fel rhan o’r digwyddiad, bydd y meddyliwr, y crëwr, yr awdur a’r breuddwydiwr, Dr Aditi Jaganathan, yn ymuno â Tina. Mae gwaith Jaganathan yn archwilio’r diwylliannau newydd sy’n deillio o gysylltiadau diaspora Du a brown mewn dinasoedd. Gyda diddordeb penodol mewn creadigrwydd fel arfer dad-drefedigaethol, mae’n gosod y dychymyg fel safle radical o wrthod a gwrthsafiad.

But Where Are You From?
Cymru | 2017 | 3’ | Dim Tystysgrif | Tina Pasotra
Wedi’i gomisiynu ar gyfer Random Acts gan Channel 4, dyma gynfas symudol haniaethol sy’n archwilio pensaernïaeth, dawns, a hylifedd hunaniaeth ddiwylliannol.

I Choose
Cymru | 2020 | 11’ | cynghorir 12a | Tina Pasotra
Mae drama Pasotra, a enwebwyd am wobr BAFTA, yn adrodd stori menyw ifanc sy’n aberthu popeth mae hi wedi’i nabod erioed i ddechrau bywyd newydd yng Nghymru.

Jamni
Cymru | 2025 | 8’ | cynghorir 12a | Tina Pasotra
Gan symud rhwng darnau ffilm o fam Tina a thirwedd Cymru o’r archif a’r presennol, dyma fyfyrdod barddonol a haenog ar ddosbarth, ymreolaeth, a gallu byd natur i iacháu, wedi’i gydblethu drwy gyfansoddiad sonig gwreiddiol sy’n cynnwys llais yr artist.

___

Amdan yr artist

Artist, cyfarwyddwr a gwneuthurwr ffilm sy’n byw yng Nghaerdydd yw Tina Pasotra. Mae’n gweithio ym maes delweddau symudol, ysgrifennu, dawns, a gosodwaith, gan geisio canoli arferion cydweithio, gofal a thegwch. Eleni, mae Tina Pasotra wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Cyfarwyddwr Ffilm yn The Arts Foundation.

___

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Creu Cyngor Celfyddydau Cymru.
 

Yr hyn mae pobl yn ddweud

"Tina Pasotra’s work has an emotional quality which enables her to explore different realities, geographies and temporalities with such depth, tenderness and care.

As a jury, we are thrilled to award the £20,000 Fellowship to Tina, she is a vital voice and a promising filmmaker. We hope this substantial resource will propel her forward to realise her clear ambitions for the future, full of exploration, play and the unknown!”

—The Arts Foundation Futures Awards Film Award jury member and film director and screenwriter, Joanna Hogg