Mae’r tri chorff wedi dod at ei gilydd i arolygu lleoliadau perfformio a theatrau ledled y wlad, i ddatgelu’r anawsterau mae cwmnïau theatr teithiol yn eu hwynebu pan fyddant yn ceisio gwefru cerbydau trydan tra ar daith.

“A ninnau’n gwmni theatr sy’n teithio ar hyd ac ar led Cymru, un o’r pethau sy’n cyfrannu fwyaf at ein hôl troed carbon yw ein fan deithio, sy’n cario’r set, y gwisgoedd a’r cast o’r naill leoliad i’r llall. Rydym yn ymroddedig i newid ein fan bresennol sy ddim yn un drydan, i fod yn un gwbl drydanol, ond cyn gwneud hynny mae arnom eisiau sicrhau bod yna gyfleusterau addas i’w gwefru ym mhob lleoliad lle’r awn ar daith, neu o leiaf o fewn cyrraedd.

Roeddem felly yn synnu o weld nad oedd unrhyw wybodaeth wedi’i chasglu am fannau gwefru trydan mewn theatrau yng Nghymru, felly dyma gychwyn ar genhadaeth i gael gwybod rhagor am y seilwaith sydd yn ei le.”

Michelle Perez, Cyfarwyddwr Gweithredol yn Theatr Iolo

Gan gydweithio â Creu Cymru a Theatr na nÓg, gwnaeth Theatr Iolo arolwg o 61 o leoliadau i gychwyn y broses o fapio’r mannau gwefru cerbydau trydan sy’n gysylltiedig â theatrau a chanolfannau celfyddydau o gwmpas Cymru. 

Datgelodd yr adroddiad fod 98% o’r lleoliadau a ymatebodd heb fan gwefru trydan ar y safle. Ar ben hyn, dywedodd bron i 90% o’r rheini nad oeddent yn cynllunio i osod man gwefru trydan yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, dywedodd 87% y byddai ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio i osod man gwefru cerbydau trydan yn eu lleoliadau, pe gallent ddatgloi cyllid i gefnogi hynny.

“Mae gwella’r seilweithiau cynaliadwyedd yn ein theatrau a’n canolfannau celfyddydau yn allweddol i alluogi cyrff yn y celfyddydau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Heb gyfleusterau sylfaenol fel mannau gwefru trydan, mae teithio cynaliadwy o gwmpas Cymru yn dal i fod yn her i lawer. Y gwaith hwn yw’r dechrau er mwyn gallu deall yr heriau hynny a chydweithio ar atebion.”

Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr yn Creu Cymru

Bydd Theatr Iolo, Creu Cymru a Theatr Na nÓg nawr yn ceisio am gyllid a chefnogaeth ychwanegol er mwyn creu map a fydd yn rhoi manylion am y mannau gwefru agosaf at bob lleoliad ar hyd llwybrau teithio nodweddiadol Cymru. Bydd y tri chwmni hefyd yn cefnogi ymdrech ar y cyd i osod rhagor o fannau gwefru lle bo’r angen mwyaf.  

Byddai Theatr Iolo yn falch o gael sgwrs ag unrhyw gorff, gwmni neu unigolyn a garai helpu a chefnogi unrhyw elfen o’r fenter yma. Ebost michelle@theatriolo.com