Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi dod â rhai o artistiaid, actorion a phobl creadigol mwyaf blaenllaw Cymru at ei gilydd ar gyfer eu harlwy yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Bydd y cwmni yn glanio yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni gyda 4 cynhyrchiad a’r sgwennu newydd mwyaf ffres yn y Gymraeg, gan ddod â gwaith theatr i 6 lleoliad gwahanol ar hyd y maes. O briodas yn Llŷn i sioe i blant; bydd rhywbeth at ddant pawb.

Yng Nghaffi Maes B, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno Parti Priodas gan y dramodydd a’r brifardd Gruffudd Owen. Dyma ddrama gomedi wedi’i gosod yn nunlle llai na Phen Llŷn! Dan gyfarwyddyd Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, Steffan Donnelly, dau o frodorion yr ardal fydd yn dod â’r ddrama arbennig hon yn fyw. Yn adnabyddus fel sgwennwr a dramodydd, Mared Llywelyn (Cwmni Tebot) fydd yn serennu fel Lowri, tra bydd Mark Henry-Davies (Of Mice and Men, Theatr y Torch; The Way, BBC) yn ymuno fel Idris. Bydd y ddau hefyd yn chwarae amryw o gymeriadau eraill. Mae’r cwmni yn falch o gydweithio gyda’r Cynllunydd Set a Gwisgoedd Luned Gwawr unwaith eto, ac i groesawu’r berfformwraig a’r ddawnswraig amlddisgyblaethol Cêt Haf atom ni fel Cyfarwyddwr Symud. Yr hynod dalentog Sam Humphreys fydd yn ymuno fel Cyfansoddwr, yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni ar ôl perfformio a chyfansoddi cerddoriaeth Gwlad yr Asyn yn 2021 a 2022.

Bydd y cwmni hefyd yn cyflwyno Yr Hogyn Pren, sef cynhyrchiad arbennig i blant a theuluoedd fydd yn crwydro’r maes. Pleser yw cael gweithio gyda’r actor, pypedwr a’r cyfarwyddwr ymladd Owain Gwynn (Life of Pi, Sheffield Crucible/West End; War Horse, National Theatre; Gangs of London, Sky) ar y darn arbennig hwn fel Cyfarwyddwr Pypedau. Bydd y cyfarwyddwr a’r dramodydd Melangell Dolma hefyd yn ymuno fel Cyfarwyddwr a Luned Gwawr fydd eto’n arwain ar y gwisgoedd. Mae’r tîm wedi bod wrthi’n datblygu pyped eco-gyfeillgar arbennig gyda chwmni Theatr Byd Bychan, ac yn edrych ymlaen i gyflwyno’r cymeriad hwn i gynulleidfaoedd gydag Owain a’r pypedwyr eraill Bettrys Jones (War Horse, National Theatre; Midsummer Night’s Dream, RSC) a Rebecca Killick (War Horse, National Theatre; Life of Pi, Sheffield Crucible/West End). Dyma berfformiad fydd yn cymysgu pypedwaith a theatr, gyda’r actor Heledd Gwynn (Hedda Gabbler, Theatr y Sherman; The Pact, BBC) yn ymddangos fel Y Fam gyda sgript wreiddiol gan yr awdur Elidir Jones. Trwy sain a cherddoriaeth wreiddiol, bydd dau aelod o’r band 9Bach, Lisa Jên Brown a Martin Hoyland, yn ein helpu i ymgolli’n llwyr ym myd Yr Hogyn Pren gyda phrofiad clywedol hudolus.

Mae Theatr Genedlaethol Cymru hefyd wedi bod yn falch o weithio gyda’r awdur lleol Sioned Erin Hughes ar addasiad i‘r llwyfan o ddwy fonolog o’r cyfrol bwerus Rhyngom a enillodd y Fedal Ryddiaeth y llynedd. Bydd cyfle i weld y ddwy fonolog yn cael eu perfformio fel monologau ar lwyfan y Babell Lên mewn addasiad arbennig dan gyfarwyddyd yr artist a chyfarwyddwr Iola Ynyr. Lois Elenid Jones (Craith/Hidden, Rownd a Rownd, S4C) sy’n perfformio Er Fy Mwyn Fy Hun a Joseff Owen (Y Gwyll/Hinterland, Stad, S4C) fydd yn perfformio Adferiad. Yn dilyn y perfformiad, bydd cyfle i fwynhau sgwrs rhwng Esyllt Maelor a’r awdur lle byddent yn trafod y gwaith a phrofiad Erin o’i addasu i’r llwyfan.

Mae’r cwmni yn credu’n gryf mewn creu gwaith pwerus sy’n amserol ac sy’n ymateb i’r byd o’n cwmpas, a dyma’r ysbrydoliaeth ar gyfer Rwan Nawr; cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Clwyd. Mae’r ddau gwmni wedi dod â rhai o’r lleisiau mwyaf cyffrous yng Nghymru heddiw at ei gilydd i greu sioe gyffrous ar ffurf papur newydd byw. Dyma gyfle i weld gwaith newydd hollol gyfoes gan Hannah Daniel, Manon Steffan Ros, Mali Ann Rees, Llŷr Titus a Kallum Weyman. Bydd y dramodwyr yn cael eu hysbrydoli gan bynciau llosg y cyfryngau cyfredol wrth ddatblygu eu dramâu byrion, a bydd y gwaith terfynol yn cael ei berfformio yn y Cwt Cabaret gan Kieran Bailey (Operation Julie, Theatr na nÓg; Casualty, BBC), Dion Davies (Under Milk Wood; Torchwood, BBC), Caitlin Drake (The Brief & Frightening Reign of Phil, National Theatre; Truth or Dare, Theatr Clwyd), Lowri Gwynne (Fala Surion, Frân Wen; Rownd a Rownd, S4C), Leilah Hughes (In My Skin, BBC; Anthem, Canolfan Mileniwm Cymru), Dewi Wykes (Petula, Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales a August 012; The Famous Five Musical, Chichester Festival Theatre a Theatr Clwyd)a. Yn cyfarwyddo’r cwbwl fydd Rhian Blythe a Daniel Lloyd, gyda Livia Jones yn ymuno â’r tîm fel Cynllunydd a’r cerddor Geraint Rhys fydd yn cyfansoddi’r gerddoriaeth.

Wrth baratoi i ddechrau ymarferion ar gyfer cynyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, meddai Steffan Donnelly:

“Mae’r Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau calendr tîm Theatr Gen, ac mae cyffro mawr yn y swyddfa wrth i ni baratoi i berfformio 4 cynhyrchiad ar hyd 6 lleoliad gwahanol eleni! Mae’n fraint i gael dod â darnau cyffrous o theatr i ardaloedd newydd ar y maes, a thrwy hynny cyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd efallai heb weld ein gwaith o’r blaen. Mae’n brofiad anhygoel i gydweithio gyda chymaint o artistiaid, actorion a sgwennwyr talentog i ddod â gwledd o raglen at ei gilydd ar gyfer yr wythnos. Dw i wir methu aros i’ch gweld chi yn y ‘Steddfod a dwi’n gobeithio’n fawr y byddwch chi’n mwynhau yr holl sioeau sydd gennym ni i’w cynnig!”

Mae’r cwmni newydd lansio ei raglen hyd at gwanwyn 2024, sef y rhaglen gyntaf o dan arweiniad artistig Steffan. Mae’r rhaglen uchelgeisiol hon yn cynnwys 8 cynhyrchiad, 3 ohonynt yn deithiau cenedlaethol. Yn ogystal â chynyrchiadau lu yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, bydd addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o’r ddrama Rhinoseros gan Eugène Ionesco, sioe newydd i blant ifanc gyda Krystal S. Lowe - Swyn, a darn sydd wedi’i greu gan bobl ifanc i bobl ifanc gyda’r cynhyrchiad Ie Ie Ie dan arweiniad Juliette Manon. Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau, mae’r cwmni hefyd yn cyflwyno nifer o brosiectau hirdymor sy’n cynnwys Prosiect 40°C sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac Ar y Dibyn sy’n cynnig cyfleoedd creadigol i rai sydd wedi’u heffeithio gan ddibyniaeth. Mae’r cwmni hefyd yn dod â’r prosiect creadigol Criw Creu yn ôl yn 2024, gan weithio gyda grŵp o Droseddwyr Ifanc o Garchar y Parc ger Penybont-ar-Ogwr, ac mae’r Clwb Drama ar y cyd â Menter Gorllewin Sir Gâr hefyd yn parhau.