Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Yn ogystal â llwyfannu tri phrif dymor repertoire yn flynyddol, mae Adran Dechnegol WNO yn cefnogi ystod o ddigwyddiadau ieuenctid, cymunedol a datblygiad. Fel Technegydd Gweithrediadau a Digwyddiadau byddwch yn canolbwyntio ar gefnogi’r gweithgareddau hyn. Byddwch wedi eich lleoli yng Nghaerdydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (cartref ein hymarferion a’n perfformiadau). O bryd i’w gilydd, bydd gofyn i chi deithio i leoliadau eraill ledled Cymru a thu hwnt.
Bydd angen i chi allu troi eich llaw at bob math o bethau gwahanol, gan fod yn gyfforddus yn gweithio’n annibynnol a gallu gweithio fel rhan o dîm mwy ar gyfer prosiectau mawr. Byddwch yn mwynhau amrywiaeth eang o waith. Gall wythnos arferol gynnwys cynnig cymorth technegol ymarferol ar gyfer cyngerdd yn Stiwdio Weston, casglu propiau ar gyfer ymarferion, cynnal a chadw offer a mynychu cyfarfodydd i drafod prosiectau ar gyfer y dyfodol.
I ddechrau, bydd hwn yn gontract tymor penodol, ond gellir ei ymestyn yn ddibynnol ar gyllid.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
- Gweithio'n agos gyda'r Adran Rhaglenni ac Ymgysylltu a Chynhyrchwyr Digwyddiadau eraill WNO i gynnig cymorth technegol a logistaidd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau mewn ystod o leoedd, gan gynnwys lleoliadau allanol.
- Cynnig cyflwyniad technegol effeithiol ac effeithlon o gyngherddau, ymarferion, trafodaethau, gweithdai, prosiectau digidol, digwyddiadau a chynyrchiadau ar raddfa lai.
- Tasgau ymarferol i gynnwys yr holl agweddau technegol sy'n ymwneud â digwyddiadau ar raddfa lai, gan gynnwys cludo offer a’u gosod, gweithredu goleuadau/sain/clyweledol a thynnu'r offer i lawr.
- Gyrru cerbydau WNO a rhai a logwyd hyd at 3.5T (Trwydded B gyffredinol) i gefnogi digwyddiadau a phrosiectau yn ôl yr angen.
- Arwain wrth Archwilio’r Offer Trydanol sy’n Gwasanaethu’r Swyddfa Dechnoleg a’r adran Rhaglenni ac Ymgysylltu, gan gynnwys profion PAT, yn ôl y gofyn.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
- Sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad sylfaenol o bob agwedd ar gymorth digwyddiadau byw.
- Sgiliau ymarferol manwl yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol: crefft lwyfan, goleuadau, sain, clyweledol, profion PAT a llwytho cerbydau'n ddiogel.
- Y gallu i ddilyn datganiadau dull, gan gynnwys defnyddio cynlluniau llwyfan a llawr.
- Dealltwriaeth ymarferol o arferion Iechyd a Diogelwch cyfredol sy'n berthnasol i'r rôl.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gasglu a rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau a phrosiectau’n briodol.
- Trwydded yrru lawn, gyfredol y DU (Categori B).
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol
£29,610 y flwyddyn (Cytundeb BECTU mewnol WNO Gradd 3.1)
Oriau Gwaith
Contract oriau blynyddol yn seiliedig ar 44 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Teithio a Chynhaliaeth
Nid yw’r swydd yn ddarostyngedig i Gytundeb Theatrau’r DU yn ymwneud â Lwfansau Teithio ar gyfer Opera a Ballet. Bydd costau teithio a chynhaliaeth wrth weithio i ffwrdd o’ch pencadlys yn cael eu had-dalu yn unol â Pholisi Treuliau WNO.
Gwyliau Blynyddol
Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer cytundeb rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.
Pensiwn
Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.
Aelodaeth Campfa
Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.
Gostyngiadau
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park
Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.
Gwersi Cymraeg
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim.
Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog
Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO. Mae hyn yn golygu bod modd i chi hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddol, optegol, osteopathi a mwy. Gallwch hefyd gyrchu gwasanaeth Meddyg Teulu a Phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.
Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys diwrnodau hamdden allan, prynu pethau i’r cartref, moduro a theithio.
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd gyda Grant Barden, Rheolwr Gweithrediadau Technegol, cysylltwch â: grant.barden@wno.org.uk