Mae pantomeim a sioeau Nadolig yn ddigwyddiadau pwysig i gynulleidfaoedd yn ystod yr hydref a’r gaeaf, ac rydym yn dechrau gweld mwy a mwy o bobl yn mwynhau’r rhain unwaith eto ar ôl y pandemig – ond a ydynt yr un cynulleidfaoedd ag o’r blaen? Ymunwch â’n TEA Break nesaf, lle byddwn yn defnyddio Audience Spectrum i ymchwilio i’r math o bobl sy’n archebu tocynnau ar gyfer y sioeau hyn er mwyn darganfod pwy sy’n dychwelyd, pwy sy’n newydd a sut mae hyn wedi newid ar ôl y pandemig.

Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023 2:15 PM – 3:00 PM

Archebwch eich lle: Archebwch eich lle am ddim – TEA Break | Pantomeim a Sioeau Nadolig – Zoom, dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023 2:15 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)

Gwybodaeth am Sesiynau TEA:

Mae’r Sesiynau TEA (Trafod Tystiolaeth a Chynulleidfaoedd) yn rhoi cyflwyniad rheolaidd i’r ymchwil, prosiectau a gwybodaeth diweddaraf am y sector gan The Audience Agency - dewch i fwynhau paned a sgwrs. Drwy’r sesiynau briffio misol byr hyn, mae ein tîm yn rhannu gwybodaeth gyfredol am y sector diwylliannol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc allweddol, wedi’i bennu gan y dadansoddiad diddorol a’r ymchwil sy’n digwydd ar y pryd o bob rhan o’n tîm. Mae hon yn ffordd hawdd o gadw llygad ar ganfyddiadau data diweddaraf y gynulleidfa a thrafod eich syniadau gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r sector.

Pwy:

Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb.

Gall fod o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn data cynulleidfa cyfredol.

Hwyluswyr:

- Oliver Mantell, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth
- Ella Brown, Ymchwilydd Tystiolaeth

Fformat:

Sesiynau briffio 45 munud ar-lein yw Sesiynau TEA.

Mae’r 30 munud cyntaf ym mhob sesiwn yn cynnwys sawl crynodeb byr o’r canfyddiadau, y prosiectau a’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ddata y mae The Audience Agency wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn wedyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod gyda phobl eraill, yn ogystal â’n tîm ni.

Cost: Am ddim