Mae grŵp o bobl ifanc o Ogledd Orllewin Cymru yn mynd i Efrog Newydd i gyd-weithio ar brosiect dysgu creadigol cyffrous.

Wedi ei drefnu gan gwmni theatr Frân Wen â GISDA, bydd y grŵp yn treulio'r wythnos yn UDA yn gweithio gyda rhwydwaith rhyngwladol o bobl ifanc ynghyd ag artistiaid sy’n cynnwys y cyfarwyddwr Gethin Evans, y coreograffydd Anthony Matsena a’r actor Aisha-May Hunte.

Byddant yn cyd-weithio ag arweinwyr a phobl ifanc The Ali Forney Center, sy'n cefnogi pobl ifanc digartref o’r gymuned LGBTQ+, a’r cwmni theatr enwog Theatre of the Oppressed NYC (TONYC).

Bydd y gwaith sy’n deillio o’r gweithdai creadigol yn ystod yr ymweliad yn ran allweddol o gynhyrchiad theatr mawr yng Nghymru yn Hydref 2024 ac mae'n rhan o weledigaeth hirdymor y cwmni i ddod â phobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac artistiaid proffesiynol at ei gilydd i uchafu lleisiau pobl ifanc Cymru.

"Rydym yn gyffrous iawn i gydweithio â’r Ali Forney Centre, Theatre of the Oppressed NYC ac artistiaid Cymreig ar y prosiect hir-dymor yma sy’n rhan o ddatblygiad cynhyrchiad newydd cyffrous,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

Meddai Sian Tomos o GISDA: 

"Rydym yn gwybod o brofiad y gall y teithiau dysgu hyn wneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc bregus - mae'n rhoi cyfleoedd iddynt na fyddai ganddynt fel arall ac yn ehangu eu gorwelion!”

Wrth sôn am y cydweithrediad, meddai Liz Morgan, Cyfarwyddwr Hyfforddi a Phedagogeg TONYC: 

"Mae cydweithrediadau rhyngwladol bob amser wedi bod yn fuddiol i ni. Mae'r cyfle i gyfnewid syniadau am y celfyddydau a gweithrediaeth gydag arbenigwyr o bedwar ban byd mor gyffrous ac ni allwn aros i gychwyn gyda Frân Wen."

Drwy gefnogaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru mae Frân Wen a Gisda wedi sefydlu partneriaeth strategol hir dymor ac yn gweithredu rhaglen o brosiectau creadigol dan yr enw Nabod.  Mae'r cyfle i ymestyn yr weithgaredd yn rhyngwladol trwy gefnogaeth rhaglen cyfnewid dysgu Taith gan Llywodraeth Cymru yn amrhisiadwy ac yn gyfle i rannu straeon pobl ifanc gogledd orllewin Cymru gyda'r byd.