Bydd pobl ifanc 7-16 mlwydd oed yn gallu dysgu dawnsio’r haf hwn gyda chwmni dawns Jones y Ddawns.
Mae’r gyfres o weithdai dros dri diwrnod yn Wrecsam, y Drenewydd a Chaerdydd â’r bwriad o annog pobl ifanc i symud, gwneud ffrindiau newydd a rhoi hwb i greadigrwydd.
Yng Nghaerdydd a Wrecsam, mae pobl ifanc Byddar a Thrwm eu Clyw yn cael gwahoddiad i fynychu’r sesiynau ysgol haf Quiet Beat am ddim. Quite Beats yw un hanner o Gwmni Ifanc Jones y Ddawns. Yng Nghaerdydd, bydd yr ysgol yn cael ei harwain gan y dawnsiwr byddar, Ben Randall, a’r ysgol yn Wrecsam yn cael ei harwain gan yr actor a’r dawnsiwr Byddar, Raphaella Julien. Byddant yn cael eu cefnogi gan Swyddogion Dawns Jones y Ddawns, Amber Howells ac Eli Williams.
Mae’r sesiynau sydd wedi’u teilwra’n arbennig yn ymateb i anghenion pobl ifanc Fyddar fel eu bod yn gallu elwa i’r eithaf o ddawnsio a mwynhau profiad lle byddent efallai fel arfer yn wynebu rhwystrau mewn sefyllfa sy’n dibynnu ar glyw. Eleni, gall rhieni a gwarcheidwaid yng Ngogledd Cymru hefyd gymryd rhan mewn gwersi BSL am ddim tra mae eu pobl ifanc yn dawnsio ar un o’r diwrnodau.
“Mae bod mewn ystafell sy’n llawn o ddawnswyr ifanc byddar yn fraint, gan nad yw hyn yn digwydd yn aml iawn. Mae gan bobl ifanc gymaint i’w gynnig - eu syniadau a’u creadigrwydd. Nid oes yn rhaid iddo fod yn ymwneud â dawns ei hun bob amser; mae hefyd yn fodd o fynegi, yn fodd iddynt ddangos pwy ydynt a rhannu eu straeon. Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw dod i’w hadnabod.” - Raffie Julien
Yn y Drenewydd - bydd Jones Bach, hanner arall o gwmni ifanc Jones y Ddawns, yn cwrdd ar dir prydferth neuadd Gregynog lle byddant yn treulio pum diwrnod yn dysgu sut i greu perfformiad o’r dechrau un, a fydd hefyd yn cael ei berfformio ar y diwrnod terfynol.
Bydd syniadau ar gyfer y perfformiad yn seiliedig ar stori anhygoel y casglwyr celf toreithiog, Gwendoline a Margaret Davies, a roddodd rai o baentiadau mwyaf adnabyddus y byd i Gymru, gan gynnwys darnau o waith gan Van Gogh, Monet a Cezanne.
Bydd y dawnswyr ifanc yn gweithio â Gwyn Emberton, Cyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns. Cafodd Gwyn ei fagu yng nghanolbarth Cymru ac mae’n frwd dros rannu ei brofiadau fel artist dawns gyda phobl ifanc leol.
“Hoffem greu cyfleoedd i rai o’r unigolion sy’n byw yn y lleoedd mwyaf gwledig ac anghysbell yng Nghymru fod yn ddawnswyr y dyfodol, os mai dyna yw eu dymuniad. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc i lwyddo hyd at eithaf eu gallu a magu’r hyder sylweddol sy’n bosib drwy gyfleoedd dawns - mewn amgylchedd cefnogol, creadigol, a hwyliog”, - Gwyn Emberton.
Mae Jones y Ddawns yn cymryd gofal trylwyr i sicrhau bod profiadau Ysgolion Haf ar gael i bobl ifanc sydd heb brofi dawns o gwbl, ac ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn mwynhau dawns - gan ganolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, creu cyfeillgarwch a rhannu sgiliau artistig.
Jones Bach
4-8 Awst, Y Drenewydd, Canolbarth Cymru.
I bob dawnsiwr ifanc sydd eisiau dawnsio a pherfformio. Dros bedwar diwrnod, byddwch yn creu sioe ddawns newydd sbon - gan ddysgu sgiliau newydd a defnyddio eich dychymyg.
https://www.jonesthedance.com/jones-bach
Quiet Beats
29-31 Gorffennaf, Wrecsam, Gogledd Cymru
12-14 Awst, Caerdydd, De Cymru
I unigolion Byddar a thrwm eu clyw. Tri diwrnod o ddawns i gysylltu â ffrindiau newydd a symud eich corff mewn ffyrdd sy’n gwneud ichi deimlo’n dda.
Am ddim
https://www.jonesthedance.com/quiet-beats
Mae bwrsariaethau a bwrsariaethau teithio ar gael i bobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau o ran costau. Cysylltwch â chynhyrchydd Jones y Ddawns, Kama, ar info_and_admin@jonesthedance.com am ragor o wybodaeth.