Mae gŵyl Sblash Mawr Theatr Glan yr Afon yn dychwelyd i Gasnewydd ym mis Gorffennaf ac mae’r cyhoeddiad cyntaf o artistiaid wedi'i ryddhau!
Mae’r Ŵyl Sblash Mawr yn ddigwyddiad blynyddol sy'n ffefryn i'r teulu cyfan nad yw byth yn siomi gyda'i amrywiaeth anhygoel o berfformiadau a gweithgareddau i ymwelwyr eu mwynhau, a’r cyfan am ddim. Dyma'r digwyddiad mwyaf o'i fath yng Nghymru ac mae'n diddanu pobl o bob oed gyda theatr stryd hwyliog, gyfareddol, ysgafn, cerddoriaeth fyw, gweithgareddau crefft a mwy!
Bydd gennym ni theatr syrcas dros dro ym mhob cornel! â The Man on The Moon, The Super Hooper Hula Hooping Street Show a Richard Garagthy Extranvagana !! ym Mhlas Wysg. Mae Fit Up Productions yn dychwelyd i Sblash Mawr gan ddod â llu o berfformwyr beiddgar gyda styntiau i’ch gadael yn gegrwth a thriciau ystwyth. Bydd Out of the Box hefyd yn crwydro strydoedd Casnewydd ar ymgyrch i herio disgyrchiant a chyflwyno sioe jyglo o'r radd flaenaf.
Bydd hi'n ddiwrnod 79 o'r ras 80 diwrnod i gylchu'r byd pan fydd Phileas Fogg a'i was Passepartout yn cyrraedd Sblash Mawr. Byddan nhw ychydig oriau i ffwrdd o linell derfyn eu hantur ryfeddol. Ar ôl croesi pum cyfandir, 24 parth amser a bellach ar eu pâr olaf o ddillad isaf glân, bydd y cystadleuwyr yn ceisio’u gorau i reoli eu balwnau aer poeth a chadw’n glir o unrhyw rwystrau. Os ydych chi'n digwydd eu gweld, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hanfon i'r cyfeiriad cywir!
Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein cyd-gynhyrchiad â nhw, How To Defeat Monsters (a dianc), mae'r ddeuawd boblogaidd, Flossy a Boo yn ôl! Byddan nhw’n dychwelyd gyda'u dau fotanegydd anturus, ar gyfer profiad theatr deithiol gyffrous a chyfareddol o'r enw, The Botanist. Ymunwch â nhw i ddatgelu byd hynod ryfeddol Casnewydd a'r hud sydd ynddi.
Efallai nad nhw yw'r gorau am droelli batonau neu orymdeithio mewn band ond am bob prinder o ran sgiliau, maen nhw’n gwneud iawn amdano mewn brwdfrydedd! Yn barod ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf nodedig yng ngŵyl Sblash Mawr mae The Little Miss Majorettes Kitsch & Sinc Collective. Edrychwch ymlaen at gomedi o driciau sy’n boddi wrth ymyl y lan, dechreuadau ffug, ffurfiannau trwstan a diweddglo direol (bron)!
Perfformiad arall gan Kitsch & Sinc Collective gyda sblash o hiraeth a drygioni morwrol i Gasnewydd yw Hello Buoys! Dilynwch ein tair lodes mewn loes wrth iddyn nhw drochi’u traed ac achosi trybini yn y tonnau ar eu taith fordwyol. Byddan nhw’n crwydro o amgylch canol y ddinas yn chwilio am gapten i'w tywys i draethau heulog.
Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gyhoeddi y bydd llwyfan llenyddol eleni yn cael ei guradu gan ein Bardd Plant Cymru 2021-2023, Connor Allen. Bydd hyn yn croesawu perfformiadau gan amrywiaeth o artistiaid llafar, a gynlluniwyd i arddangos pŵer adrodd straeon ar eu ffurf symlaf.
Ar ben yr holl berfformiadau trawiadol hyn, rydym wrth ein bodd o gadarnhau ailymddangosiad ein llwyfan cymunedol, a fydd bellach yn cael ei alw'n llwyfan Dathlu. Bydd y llwyfan hwn yn cynnwys llawer o dalent leol, o gerddoriaeth fyw i berfformiadau dawns ac yn parhau i fod yn lle yn yr ŵyl sy'n dathlu'r gymuned leol.
Hoffem ddweud faint rydym yn gwerthfawrogi Cyngor Celfyddydau Cymru, Newport Bus, Friars Walk, AGB Casnewydd sydd wedi gwneud yr ŵyl yn bosibl. Hoffem ddiolch hefyd i Gyngor Dinas Casnewydd, Gwesty'r Mercure a'n partneriaid yn y digwyddiad, Le Pub, am eu cefnogaeth barhaus.
Byddwn yn rhyddhau mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Felly, cadwch lygad barcud i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyhoeddiadau artistiaid, lleoliadau llwyfan, amseriadau a mwy!
Mae'r ŵyl yn ddigwyddiad i beidio â’i golli felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'r dyddiad yn eich dyddiadur!