Dim. Gair. Wrth neb. Addasiad llwyfan o stori arswyd gwlt yw cynhyrchiad diweddaraf Canolfan Mileniwm Cymru – a fydd yn cyrraedd yr un wythnos â Noson Galan Gaeaf.
Mae PONTYPOOL wedi’i seilio ar y stori arswyd gwlt gan Tony Burgess a drawsnewidiodd y genre sombi. Wedi’i osod yn wreiddiol yn Pontypool yn Ontario, Canada, mae’r addasiad newydd hwn gan yr awdur Cymreig Hefin Robinson yn gweld yr arswyd yn lledaenu drwy lygaid a chlustiau darlledwyr radio ym Mhont-y-pŵl, Torfaen.
Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, sef hefyd y diwrnod y mae PONTYPOOL wedi’i osod, gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn postio rhagflas ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y DJ radio Grant Mazzy yn arfer bod yn frenin y tonnau awyr, ond mae ei geg fawr a’i ego hyd yn oed yn fwy wedi golygu ei fod wedi gorfod gadael y gorsafoedd cenedlaethol, ac mae bellach yn gweithio i Beacon Radio, gorsaf anhysbys Pont-y-pŵl yng nghymoedd y de.
Ar Ddydd Santes Dwynwen, sy’n eira i gyd, mae Mazzy a’i dîm yn paratoi ar gyfer sioe frecwast arall yn llawn newyddion, tywydd, traffig a galwadau. Ond, mae pethau’n troi’n annifyr wrth i adroddiadau dryslyd gyrraedd am derfysgoedd a thorfeydd yn parablu yn y dref.
Mae panig yn lledaenu. Mae arswyd yn agosáu. A all Mazzy aros ar yr awyr i wneud synnwyr o bopeth, neu a fydd Pont-y-pŵl yn tawelu?
Ymunwch â Grant Mazzy a’i dîm ar Beacon Radio ar gyfer rhediad cyfyngedig yn y Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 30 Hydref – 9 Tachwedd 2024. Mae tocynnau ar gael nawr ar https://wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2024/pontypool
Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Roedd y posibilrwydd o drosi stori arswyd gwlt o'r enw Pontypool i Gymru ac i oes fodern yn anorchfygol. Mae gwneud hynny gyda thîm dan arweiniad talent Gymreig ar ffurf Hefin Robinson a Dan Phillips hyd yn oed yn well.
"Byddwn yn ystyried ein defnydd o iaith, synhwyriadaeth a chwilio am wirionedd yng nghanol hinsawdd o newyddion ffug a damcaniaethau cynllwynio. Mae'n frawychus dros ben ond yn llawer o hwyl ar yr un pryd."
Cafodd nofel boblogaidd 1995 Tony Burgess Pontypool Changes Everything ei rhyddhau yn 2008 fel y ffilm a drama radio arswyd gwlt Pontypool, gyda’r olaf yn sail ar gyfer addasiad llwyfan newydd Hefin Robinson.
Meddai Hefin Robinson: "Mae ail-ddychmygu Pontypool, stori gwbl wreiddiol a syfrdanol Tony Burgess, ar gyfer y llwyfan wedi bod yn wledd. Nid yn unig y mae e wedi ein galluogi i gyfieithu'r tensiwn a'r arswyd i brofiad theatr fyw, ond mae'r lleoliad Cymreig newydd wedi dod â chalon a hiwmor y gymuned dref-fach benodol hon gydag ef.
"Mae'r cyfle i ysgrifennu sioe arswyd sy'n archwilio iaith, dwyieithrwydd a diwylliant o safbwynt Cymreig wedi bod yn arbennig o gyffrous. Alla i ddim aros i ddechrau brawychu cynulleidfaoedd yr hydref hwn."
Mae PONTYPOOL wedi’i gyfarwyddo gan Dan Phillips gyda dyluniad sain ymdrochol gan Ben Samuels, ac wedi’i gynhyrchu ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru gan Pádraig Cusack. Mae’r cwmni hefyd yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Cory Shipp, y dylunydd goleuo Simisola Majekodunmi, y cyfansoddwr Nicola T Chang, y cyfarwyddwr symud ac agosatrwydd Lucy Glassbrook, a’r cyfarwyddwr castio Hannah Miller CDG. Cast a chwmni pellach i’w gyhoeddi.