DATGANIAD I'R WASG

Cynhelir yr Ŵyl ‘Spirit’ Ryngwladol yn Sgwâr y Frenhines, ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf rhwng 12pm-5pm, gyda chyfres o berfformiadau dawns awyr agored ysblennydd, cyfle i grwydro o gwmpas a stondinau anhygoel gyda bwydydd o bob cwr o’r byd! Mae yna rywbeth i bawb yn y digwyddiad gwych yma sy’n addas i deuluoedd ac yn rhad ac am ddim.

Mae Paallam Arts, sefydliad celfyddydau perfformio o Wrecsam, yn cynhyrchu GŴYL ‘SPIRIT’ 24 am yr ail flwyddyn. Cefnogir yr ŵyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Wrecsam, Diverse Cymru, Canolfan Amlddiwylliannol Gogledd Ddwyrain Cymru, Cyngor Hil Cymru, Tŷ Pawb a mwy.

Mae GŴYL ‘SPIRIT 24 yn ŵyl ddeuddydd, sy’n rhoi cyfle i ysgolion DDOD DRAW a CHYMRYD RHAN ar 12 Gorffennaf yn Nhŷ Pawb, er mwyn dysgu sgiliau newydd a gwylio cynhyrchiad dawns Cymreig, sydd wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer plant gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Dance Collective Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Eisteddfod a mwy.

Ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf, o 12pm ymlaen, bydd Sgwâr y Frenhines yn cael ei drawsnewid yn lle bywiog, yn llawn dawnswyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd ysgolion dawns lleol hefyd yn arddangos eu gwaith yno, yn ogystal â chyfres o stondinau bwyd a stondinau cymunedol, a bydd croeso i bawb ddod draw i’w mwynhau.

Ymhlith yr artistiaid sy’n cymryd rhan mae Clwb Dawns WISP Wrecsam, Hip Hop Cymru Wrecsam, Osian Meilir, Nirthya Pillai, Krystal Lowe, Ayodhana Kalarippayattu Gurukkul a mwy. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl gweld cyfres o berfformiadau gan artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol medrus yng nghanol Wrecsam.

Meddai Krishnapriya Ramamoorthy, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Paallam Arts, “Rydym wedi ymrwymo i roi cyfle i’r gymuned weld perfformiadau dawns o safon uchel. Mae GŴYL ‘SPIRIT’ 24 yn rhoi cyfle unigryw i gymunedau roi cynnig ar ddawnsio mewn modd agored a rhyngweithio gydag artistiaid mewn amgylchedd cyfeillgar. Rydym yn awyddus i feithrin diddordeb mewn dawns a’r celfyddydau symud ac mae hyn yn mynd â ni gam yn nes at ein cenhadaeth”