Mae tymor 2025 The Shape of Things to Come gan Volcano yn agor yr wythnos nesaf gyda The Alcoholic's Tarot gan leon clowes.

Gyda dec arbennig a llaw gytbwys o hiwmor a gonestrwydd emosiynol, mae leon yn eich gwahodd i'w barlwr i dystiolaethu straeon personol am anhrefn, datguddiad a gofid, gan ofyn lle rydym yn tynnu’r llinell rhwng normaleiddio cam-drin alcohol mewn cymdeithas ac effaith codi cywilydd ar y rhai sy’n gaeth.

Bydd perfformiadau ar 8 - 10 o Fai, ym mhencadlys Volcano, Stryd Fawr, Abertawe.

Mae The Shape of Things to Come yn rhaglen flynyddol o berfformiadau unigol newydd, byr gan actorion a gwneuthurwyr theatr annibynnol. Cynhelir pob un o’r pum sioe eleni yn Yr Ystafell, set newydd a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan yr artist o Abertawe, Bourdon Brindille.

Mae The Shape of Things to Come yn rhedeg o 8 Ebrill i 14 Mehefin. Yn dilyn leon bydd gwaith gan Arnold Matsena, Ryan Samuel Davies, Moana Doll a Joanna Simpkins.