Sioe solo y Storïwr o Gymro Phil Okwedy, The Gods Are All Here, bellach ar gael i’w gwylio ar lein ar alw ym mis Rhagfyr.

Yn dilyn taith lwyddiannus ar draws ugain oed yn Lloegr yn yr hydref, a’i daith gynt ar draws Cymru yn 2022, bydd y Storïwr o Gymro Phil Okwedy, gyda chefnogaeth gan y cynhyrchwyr, Adverse Camber, bellach yn ffrydio The Gods Are All Here ar alw o 11 Rhagfyr 2023 tan 1 Ionawr 2024.

Wedi’i sbarduno gan ddarganfyddiad cyfres o lythyrau gan ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad un-dyn grymus, telynegol a chynnes gan storïwr rhagorol, Phil Okwedy.

Mae perfformiad cyfareddol Phil yn fedrus yn plethu myth, cân, straeon gwerin a chwedlau’r diaspora Affricanaidd gyda stori bersonol ryfeddol sy’n dadlennu profiadau Phil o gael ei fagu fel plentyn o dreftadaeth ddeuol yng Nghymru yn y 1960au a’r 70au.

Mae The Gods Are Here yn ymchwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a phlentyn yn cael ei fagu heb ei rieni geni mewn perfformiad teimladwy a doniol. Mae The Gods Are All Here yn stori dragwyddol ac yn bendant iawn yn stori gyfoes.

Wedi’i eni yng Nghaerdydd, ni wnaeth Phil erioed fyw gyda’r naill na’r llall o’i rieni ond cafodd ei fagu yn Sir Benfro gan ei fam faeth hirdymor. Gan olrhain y cyfnod mewn bywyd pan ddywedir fod plant yn ystyried eu rhieni fel duwiau, ond heb fod erioed wedi byw gyda nhw, yn y sioe hon mae Phil yn ystyried os oedd ei rieni, mewn gwirionedd, y duwiau y dychmygodd iddynt fod.

Ar y cyd ag Arena Theatre a Theatr Sir Gâr, mae gan gynulleidfaoedd bellach y cyfle i wylio’r sioe ar lein os collon nhw hi’r tro cyntaf roedd ar fynd, neu ei gwylio eto.

Meddai Naomi Wilds, Cyfarwyddwr Gweithredol Adverse Camber, “Mae Phil yn storïwr tan gamp, a’i berfformiad mor agosatoch a hudol nes ei fod wedi cyfareddu cynulleidfaoedd go iawn.Gofynnodd cynifer o gynulleidfaoedd inni pryd y gallen nhw weld hyn eto, neu ac arnyn nhw eisiau sôn amdano wrth bobol eraill, ac rydym wrth ein boddau o allu cynnig gwedd ar lein, sydd hefyd yn hygyrch gyda Chapsiynau Caeëdig, dehongliad Iaith Arwyddion Prydain a Disgrifiad Sain.”

Mae The Gods Are All Here ar gael ar alw o 11 Rhagfyr tan 1 Ionawr 2024 (yr awr sgrinio olaf am ganol nos ar 31 Rhagfyr).

Bydd y darllediad ar gael i’w wylio pryd mynnoch chi ar fwrdd gwaith cyfrifiadur, gliniadur, iPhone, iPad neu, os gwyddoch chi sut i’w gysylltu, ar eich sgrîn deledu fel y gall eich ffrindiau a’r teulu i gyd ei wylio ar yr un pryd ar un sgrîn. Does rhaid i chi ond codi un tocyn (£12) i’w wylio ar un sgrîn unwaith.

Yn y flwyddyn aeth heibio cyllidwyd The Gods Are All Here gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England, ac fe’i cefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Syr Barry Jackson, Theatrau Sir Gâr ac Arena Theatre, Wolverhampton