Mewn a mas, mewn a mas: mae’r môr yn dod â phethau ac yn cymryd pethau i ffwrdd. Mae Mali yn gwybod hyn. Mae ei chartref annwyl ar yr ynys yn llawn trysorau wedi’u gadael gan y llanw. Bob dydd, mae Mali, gyda’i doli fach Megan wrth ei hochr, yn gwylio’r môr: yn aros i gwch pysgota Dada ddod adref. Ond un diwrnod, mae’r tonnau’n troi’n stormus, a dydy cwch Dada ddim yn ymddangos. A gall Mali a Megan ddod o hyd i ffordd o ddod ag ef adref? Stori am ryfeddodau’r moroedd mawr i bobl bach yw hon, wedi’i hadrodd yn Gymraeg a Saesneg, trwy gân, chwedleua, a phypedwaith, ar gyfer plant 3+.
Mae Mali a'r Môr wedi'i chreu gan Tamar Williams a Naomi Doyle ac yn seiliedig ar lyfrau poblogaidd “Molly” gan Malachy Doyle.
Bydd taith gyntaf y sioe ym mis Mehefin 2024. Cyn hwn, bydd y cwmni cynhyrchu adrodd straeon Adverse Camber yn cynnal dau ddigwyddiad fforwm ar-lein rhad ac am ddim i storïwyr a gwneuthurwyr theatr dan arweiniad Tamar a Naomi. Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i storïwyr ac artistiaid eraill i gyfarfod, trafod eu crefft, rhannu sgiliau, a chyfuno adnoddau. Dewcho hyd i docynnau yn y dolenni isod. Bydd y fforymau hyn yn rhoi'r cyfle i storïwyr drafod y pynciau canlynol:
Dydd Llun 10fed o Fehefin 6-7.30yh: Chwedleua i'r Blynyddoedd Cynnar
Dydd Llun 17eg o Fehefin 6-7.30yh: Pobl Bach ac Iaith Leiafrifol
Bydd Mali a'r Môr yn teithio i'r llefydd canlynol:
Dydd Sadwrn 15fed o Fehefin
Gwyl Celfyddydau y Fenni (Castell y Fenni) 11.15yb & 2.30yh
Dydd Mercher 19eg o Fehefin
Llyfrgell Trefynwy 10yb
Llyfrgell Brynbuga 1.30yh
Dydd Iau 20fed o Fehefin (perfformiadau BSL)
Llyfrgell Cas-Gwent 10yb
Llyfrgell Cil-y-Coed 1.30yh
Mae'r perfformiadau uchod yn rhad ac am ddim; cysylltwch y lleoliadau am fanylion bwcio.
Dydd Gwener 28ain o Fehefin
Village Storytelling Festival, CCA Glasgow 11yb
Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgelloedd Sir Fynwy ac Adverse Camber am eu cymorth.
Llun: Andrew Whitson/Graffeg.
https://www.eventbrite.co.uk/e/online-forum-storytelling-for-early-years-ticket…