Gyda dros £3 miliwn o arian wedi’i greu ar gyfer sinemâu, gwyliau a sgriniau cymunedol yng Nghymru ers 2013, mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn edrych yn ôl dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae’r Ganolfan wedi cydweithio â rhwydwaith enfawr o dros 300 o arddangoswyr yng Nghymru gan gynnig cyngor, hyfforddiant a chyllid. Fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI (FAN) sy’n weithredol ledled y DU, mae’r Ganolfan wedi dod â bron i 6000 o’r ffilmiau annibynnol o’r DU a ffilmiau rhyngwladol gorau i gymunedau ledled Cymru ers lansio’r prosiect. Mae’r cyfan yn bosib diolch i gyllid Loteri Cenedlaethol y BFI.

Mae uchafbwyntiau yn cynnwys gwaith ar raddfa fawr megis canmlwyddiant ‘Roald Dahl ar Ffilm’ a dathliad o waith animeiddio'r DU: ‘Anim18’, fe lwyddodd y ddau gyrraedd 150 sgrin sinema ledled y DU. Mae Rhwydwaith Gŵyl Ieuenctid Cymru ac Off Y Grid, a sefydlodd gysylltiadau rhwng clystyrau o sinemâu a gwyliau er lles cynulleidfaoedd hyperleol hefyd yn uchafbwyntiau. Mae’r Ganolfan hefyd wedi sefydlu cynlluniau allweddol megis Gwnaethpwyd yng Nghymru, sy’n mynd i’r afael â’r bwlch yn y gadwyn ffilm Gymreig. Mae’r cynllun yn gweithio i hyrwyddo ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig, a chynllun Sinema Gynhwysol a ddyluniwyd i gefnogi cynrychiolaeth a hygyrchedd deg o fewn lleoliadau sinema yn y DU.

Wrth i ni edrych yn ôl at lansiad y Ganolfan, rydyn ni’n cofio sinemâu Cymru’n mynd yn dywyll fel rhan o dymor y DU gyfan – ‘BFI Gothic’ – yn 2013. Yn Aberystwyth, aeth cynulleidfaoedd ar daith gyda’r ‘Abertoir Horror Express’, y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau oddi ar y safle y byddai’r ŵyl ryngwladol o fri yn ei chynnal.

Esbonia Gareth Bailey a Nia Edwards Behi, cyfarwyddwyr Abertoir pam fod cefnogaeth y Ganolfan wedi bod mor bwysig iddyn nhw:

“Rydyn ni’n hynod falch ein bod wedi cydweithio â Chanolfan Ffilm Cymru dros yr holl amser yma – nifer faith o flynyddoedd! Mae’r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel. Mae rhai o’r ffilmiau gorau i ni eu dangos – megis ‘Gwledd’ – wedi dod o anogaeth a chysylltiadau Canolfan Ffilm Cymru. Mae’r ffaith i hyn oll gychwyn gyda BFI Gothic ddeng mlynedd yn ôl yn briodol iawn. Ar y pryd fe alluogodd gyllid Canolfan Ffilm Cymru ni i gymryd risg a pheilota ein digwyddiad cyntaf oddi ar y safle – sef yr ‘Abertoir Horror Express.’ Rydyn ni wedi bod yn arbrofi gyda dangosiadau safle penodol byth ers hynny! Rydyn ni hefyd yn credu y dylai Abertoir fod yn hygyrch ac mae eu cefnogaeth wedi’n galluogi ni i gynnwys capsiynau ar gyfer elfennau rhithiol yr ŵyl. Rydyn ni mor falch bod Canolfan Ffilm Cymru yn bodoli i gefnogi diwylliant ffilm yng Nghymru.”

Megis cychwyn oedd hyn. Mae’r Ganolfan bellach wedi cyllido neu / ac wedi datblygu 347 o brosiectau’n uniongyrchol ledled Cymru, o ‘Fframio’n Gorffennol’ - e-lyfr gyfoethog yn seiliedig ar hanes Cymru o Archif Sgrin a Sain yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i gefnogi chwe chanolfan gyda’u hymdrechion i fewnosod cynlluniau sinema dan arweiniad pobl F/fyddar gyda Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.

Esbonia Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:

“Gyda chynifer o heriau yn wynebu sinemâu ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu ar y llwyddiannau niferus o’r 10 mlynedd ddiwethaf. Rydw i’n ddiolchgar am y cysylltiadau rydyn ni wedi’u creu gyda phartneriaid fel Cellb, Pontio a’r Magic Lantern, sefydliadau yr ydym wedi cydweithio â nhw ers y cychwyn cyntaf. Yn ogystal â phartneriaethau strategol gyda Wicked a’r Archif Sgrin a Sain – partneriaethau ble y cymeron ni risgiau gyda’n gilydd er mwyn creu rhywbeth newydd. Pa un ai a ydym yn hyrwyddo newidiadau polisi sy’n effeithio arddangos yng Nghymru, neu’n helpu rhaglenwyr ifanc, pwrpas ein gwaith yn ei hanfod yw adeiladu prosiect sy’n cefnogi sinemâu a gwyliau i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau – adlonni a chysylltu cynulleidfaoedd. Mae llwyddiant y Ganolfan o ddiolch iddyn nhw, ac rydyn ni’n mawr obeithio parhau i gynnig ein cefnogaeth am flynyddoedd i ddod.”

Mae gweithgareddau’r Ganolfan yn cwmpasu datblygu sgiliau hefyd. Gyda’r nod o gefnogi sector arddangos llewyrchus a hyderus, mae’r Ganolfan wedi dyfarnu 193 bwrsari hyfforddi i aelodau fynychu cyrsiau neu gyfarfodydd pwysig y tu allan i’w hardal awdurdod lleol. Maent hefyd wedi creu 26 cwrs a 23 adnodd ar-lein mewnol ac wedi cynnig cannoedd o gyfleoedd i arddangoswyr rwydweithio a chael mynediad i gyngor un i un gan dîm y Ganolfan.  

Esbonia Reg Noyes, Rheolwr y Rhaglen, Creu Taliesin, sut mae Canolfan Ffilm Cymru yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu eu sgiliau a’u partneriaethau:

“Mae Canolfan Ffilm Cymru yn brosiect rhagweithiol a chefnogol iawn sydd wedi llwyddo i ddod â holl arddangoswyr Cymru ynghyd i greu rhwydwaith cyfarwydd ac agos. Drwy gyfarfodydd ar-lein cyfnodol a Diwrnodau Dangos Cymreig, mae arddangoswyr o Gymru wedi creu cysylltiadau ac wedi rhannu profiad/gwybodaeth, gan ein gwneud ni yn grŵp proffesiynol agos. Mae eu cylchlythyrau a’u Hystafell Rhagddangos ar eu gwefan yn adnodd ardderchog i raglenwyr, ac mae eu tymhorau sydd wedi’u curadu yn cynnig amrywiaeth yr ydym yn ei groesawu. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn gaffaeliad arbennig i sinemâu a rhaglenwyr yng Nghymru.”

Gall bartneriaid ddysgu rhagor am waith y Ganolfan yn ei Huchafbwyntiau 10 Mlynedd, sy’n cyflwyno detholiad o brosiectau, y bydd yn cael eu rhannu ar eu cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf. Gallwch hefyd wrando ar aelodau’r Ganolfan yn trafod yr hyn y mae’r prosiect wedi’i olygu iddyn nhw drwy gyfres o fideos byrion. Mae’r Ganolfan hefyd wedi ariannu 17 prosiect newydd ar gyfer 2023 sy’n golygu bod llawer o bethau cyffrous ar y gweill i gynulleidfaoedd Cymru.

Ychwanegodd Ben Luxford, Cyfarwyddwr UK Wide Audiences:

 “Mae’r BFI yn falch o fod wedi cefnogi Canolfan Ffilm Cymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf er mwyn cryfhau a datblygu’r sector sgrin er fudd cynulleidfaoedd. Mae’n rhan o fuddsoddiad tymor hir y Loteri Genedlaethol fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI – rhwydwaith y DU gyfan – sy’n dod â ni ynghyd â phartneriaid ardderchog y mae eu gwaith yn buddio’r genedl, gyda gweithgareddau’n digwydd yng nghalon cymunedau. Llongyfarchiadau i Hana a’r tîm am gynnig cefnogaeth barhaus mor bwysig.”

Cefnogir y prosiectau gan Ganolfan Ffilm Cymru, sy'n rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm BFI (FAN) gan ddefnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol i sicrhau bod y dewis mwyaf o sinema ar gael i bawb ledled y DU. Gweinyddir arian yng Nghymru gan Ganolfan Ffilm Cymru drwy Chapter fel Sefydliad Arweiniol y Ganolfan Ffilm.

Mae dros £30m yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU gan y Loteri Genedlaethol.