Rydym yn falch i gyhoeddi'r chwe artist a fydd yn creu perfformiadau byr newydd yn ein rhaglen eleni. Perfformiadau 02 Mai - 22 Mehefin. Ar werth o ddydd Llun 15 Ebrill. Y syniad y tu ôl i THE SHAPE OF THINGS TO COME yw annog perfformwyr i ddatblygu dulliau perfformio newydd o flaen cynulleidfaoedd bach brwdfrydig. Rydym yn arbennig o awyddus i annog perfformwyr sy’n ymgysylltu â’r dyfodol, pwnc a dull perfformio sy’n ymwneud â’r hyn sydd i ddod neu “ddim eto”.

CATHERINE ALEXANDER
Is That All There Is? | 02 - 04 Mai

ERIC NGALLE CHARLES
Rituals of the Molokilikili | 09 - 11 Mai

CHRISTOPHER ELSON
This Museum is a Spaceship | 16 - 18 Mai

LUKE HEREFORD
Perfect Places | 23 - 24 Mai

ELIN PHILLIPS
Nythu | 13 - 15 Mehefin

AKEIM TOUSSAINT BUCK
Sanc | 13 - 15 Mehefin

Cyn i ni ddechrau, ymunwch â ni ddydd Iau yma ar gyfer y prolog - te, cacen a Once Upon a 2024 - perfformiad byr gan fyfyrwyr o RUBICON DANCE.

Mae ONCE UPON A 2024 yn datblygu ar sail rhai o’r themâu o The Rising Damp & Other Tails, sef deuawd a grëwyd gan Marianne fel rhan o gyfres The Shape of Things to Come yn Volcano yn 2023. Wedi’i leoli ar noson stormus yn nyfnderoedd argyfwng tai anniwall, cewch ymgolli eich hun yn y perfformiad hwn sy’n ailadrodd stori The Little Mermaid Hans Christian Anderson ar ffurf stori gariad llawn trasiedi a chamfanteisio rhwng morwas a gwerthwr tai.  

Mae cast a chyd-greawdwyr Once Upon a 2024 yng nghanol pennod newydd yn eu bywydau; ym mis Medi, bydd pob un ohonyn nhw’n gadael cartref i gychwyn cyrsiau hyfforddiant dawns llawn amser mewn dinasoedd ar hyd a lled y DU. Trwy gyfrwng dawns, mae Once Upon a 2024 yn adlewyrchu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ifanc ac yn llawn breuddwydion yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw parhaus.

Mynediad am ddim - rhoddion i Rubicon.